Newyddion diweddaraf
PLAID CYMRU YN DEWIS YMGEISYDD IFANC I FOD YN LLAIS NEWYDD I BONTYPRIDD YN SAN STEFFAN
Aelodau lleol Plaid Cymru Pontypridd yn dewis Wiliam Rees, 25, i fod yn “lais newydd i Bontypridd” yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Mae Wiliam Rees, 25, yn sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru ym Mhontypridd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Yn cyhoeddi ei ymgeisyddiaeth, dywedodd Wiliam Rees, “Dwi eisiau bod yn llais newydd i Bontypridd yn San Steffan. Dwi eisiau fod yn AS a fydd yn gwrando ar drigolion lleol ac yn gweithredu ar eu rhan.
Darllenwch fwy
Cyflwynwyd deiseb i'r Bwrdd Iechyd
Mae Cynghorwyr Plaid Cymru Cilfynydd ac Ynysybwl ynghyd â Heledd Fychan (Aelod Senedd dros Ganol De Cymru) wedi cyflwyno deisebau wedi eu harwyddo gan dros 500 o drigolion i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Mae'r ddau ddeiseb yn gwrthwynebu cynlluniau gan Feddygfa Taff Vale i gau eu hadeilad yn y ddau bentref.
Darllenwch fwy
Covid Inquiry
Mae Plaid Cymru wedi ymateb i’r dystiolaeth a roddwyd gan Vaughan Gething AS, cyn Weinidog Iechyd Cymru, ac ymgeisydd Prif Weinidog Llafur, i Ymchwiliad Covid y DU heddiw, 11 Mawrth 2024.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal: Yr hyn sy’n amlwg o dystiolaeth shambolig heddiw yn ymchwiliad Covid y DU yw nad oedd Llywodraeth Lafur Cymru yn barod ar gyfer Covid.
Darllenwch fwy