Gan Carole Willis - Cynghorydd Cymuned Groesfaen:
"Fel cynghorydd cymuned Groesfaen dros y misoedd diwethaf rwyf wedi siarad â llawer o drigolion sydd am weld mwy o weithgareddau cymunedol yn y pentref. Os ydym i gyd yn cydweithio gallwn drawsnewid ein cymuned.
Rwyf wedi codi’r mater gyda Chyngor Cymuned Pontyclun sydd wedi cytuno mewn egwyddor i’n helpu. Maen nhw eisoes wedi cytuno grant i wella cyfleusterau yn Eglwys Dewi Sant ac arwydd newydd i'r parc, oherwydd nad oedd rhai o'n preswylwyr yn ymwybodol bod lle chwarae yn y pentref. Mae hefyd yn bosib y byddant yn ystyried cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol eraill.
Cefais gyfarfod gydag aelod o bwyllgor Eglwys Dewi Sant yn ddiweddar ac roeddwn yn gyffrous i glywed eu bod yn cynllunio gosod toiledau a chreu ardal gymunedol yng nghefn yr Eglwys. Byddai'r ardal hon yn agored i'w defnyddio gan grwpiau cymunedol ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau. Cytunom y byddai'n syniad da i ofyn i breswylwyr a fyddent yn defnyddio'r ardal hon ac ym mha fath o weithgareddau y byddai ganddynt ddiddordeb. Byddaf yn galw i drafod hyn gyda thrigolion cyn hir ond mae croeso i chi gwblhau’r arolwg a’i ddychwelyd trwy’r post."