Heddiw (27 Tachwedd 2024), mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi ysgrifennu at Ddirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru yn gofyn am fwy o gefnogaeth i gymunedau sydd wedi dioddef llifogydd. Gyda llawer o gymunedau unwaith eto’n delio â llifogydd, tro hwn yn dilyn Storm Bert, mae ei llythyr yn amlinellu pam mae’n rhaid gweithredu ar fyrfer gan gynnwys rhoi’r gwersi y dylid bod wedi eu dysgu ar waith yn dilyn effaith ddinistriol Storm Dennis ar yr un cymunedau yn 2020.
Mae’r llythyr hefyd yn galw am fwy o gefnogaeth a gweithredu:
- Canllawiau clir: O ran cael mynediad at fesurau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer trigolion a pherchnogion busnes.
- Diweddariadau cynnydd: Ar argymhellion o adolygiadau o lifogydd yn y gorffennol.
- Staffio digonol a chyllideb ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru: Sicrhau bod eu dyletswyddau atal a lliniaru llifogydd yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
- 4. Ymagwedd gyfannol: At atal a lliniaru llifogydd.
- Tryloywder a chyhoeddi data: Cefnogi honiadau o effeithiolrwydd amddiffynfeydd rhag llifogydd.
- Sefydlu Fforwm Llifogydd i Gymru: Wedi'i ysbrydoli gan yr Alban, i gefnogi cymunedau'n fwy effeithiol.
- Cynnydd ar unwaith: Ar fynd i'r afael â risgiau hirsefydlog, megis y rhai a wynebir gan drigolion Clydach Terrace.
- Asesiad cynhwysfawr: Sicrwydd ynghylch diogelwch tomennydd glo yn dilyn tywydd garw.
Dywedodd Heledd Fychan:
“Mae Storm Bert wedi gadael ei marc, gan ddinistrio nifer sylweddol o gartrefi a busnesau—llawer ohonynt yn dioddef o lifogydd am yr ail, y trydydd, neu hyd yn oed y pedwerydd tro ers 2020. Mae'r trigolion yr effeithiwyd arnynt nid yn unig wedi'u llethu ond hefyd yn fwyfwy rhwystredig gan y diffyg cefnogaeth ar gael iddynt a chynnydd ar wneud ein cymunedau yn ddiogel rhag llifogydd.
“Yn 2020, fe wnes i arwain y galwadau am ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd – rhywbeth a wrthodwyd dro ar ôl tro gan Lywodraeth Lafur Cymru. Bron i bum mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'n syndod bod pobl yn flin nad yw gwersi dal heb eu dysgu.
“Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi etholwyr a byddaf yn parhau i ymgyrchu am y mesurau hanfodol hyn i amddiffyn cartrefi a busnesau rhag llifogydd yn y dyfodol.”