Llwyddiant Ymgyrch Peiriannau Tocynnau Parcio!
Ar ôl ymgyrch a arweiniwyd gan y Cynghorydd Dawn Wood o Blaid Cymru, a barodd ymhell dros flwyddyn mae Cyngor RhCT wedi cytuno i osod Peiriannau Tocynnau sy'n derbyn arian parod a cherdyn. Yn flaenorol, dim ond derbyn arian parod oedd yn cael effaith andwyol ar siopau yng nghanol tref Pontypridd wrth i bobl heb arian parod yrru i ganolfannau siopa ar gyrion trefi.
Cynhaliwyd treialon yr wythnos diwethaf ym maes parcio Millfield ac yn dilyn y llwyddiant hwnnw maent bellach yn cael eu gosod ym mhob maes parcio ar draws Pontypridd ac Aberdâr.
Os hoffech ddarllen mwy am y cyflwyniad cliciwch yma i ymweld â gwefan RhCT.