Carole Willis
Braint fyddai cael y cyfle i gynrychioli ward Pontyclun ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a rhoi llais cryf i'r ardal hon. Teimlaf yn gryf bod angen newid ar ein cyngor. Dyw hi ddim yn iawn fod Treth y Cyngor yn yr ardal hon yn uwch nag yw'r dreth mewn ardaloedd cyfagos fel Caerdydd neu Gaerffili. Er gwaethaf hynny rydym yn dal wedi gweld Llafur yn torri swyddi a gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae'n bryd i ni gael cyngor sy'n sicrhau gwerth am arian ac sy'n gwrando ar y bobl sy'n ei ethol.
Mae angen, er enghraifft, i ni orfodi'r cyngor i wrando ar y pryderon am ddatblygu 460 o dai yng Nghefn yr Hendy. Mae'n gwasanaethau eisoes dan bwysau a'r traffic ar ein ffyrdd yn ofnadwy. Rwy'n rhoi fy ngair y byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i atal gor-ddatblygu. Ewch i dudalen Facebook 'Save Cefn yr Hendy' i gael mwy o wybodaeth am y datblygiad posib hwn.
Diolch yn fawr,
Carole Willis