Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod Danny Grehan wedi cael ei ddewis i gynrychioli Plaid Cymru yn Nwyrain Tonyrefail yn etholiadau’r cyngor (Mai 2017).
“Dw i ‘di byw yn Nhonyrefail ers bron i 30 mlynedd, yn byw gyda fy ngwraig, Helen Prosser, a’n plant ar High Street. Yn ogystal â fy ngwaith fel actor, rydw i hefyd yn gweithio i Leanne Wood yn y Rhondda.
Mae tai yn codi ym mhob cae gwag erbyn hyn – mae bron i fil o dai newydd eto i ddod. Er hyn, does dim ystyriaeth wedi bod i anghenion y gymuned, neu a yw Ton yn gallu dygymod â’r holl dai newydd – mae’r heolydd yn ddigon prysur yn barod, ac mae hi bron yn amhosib cael apwyntiad meddyg fel y mae. Mae angen meddwl am anghenion Ton cyn caniatau yr holl gynlluniau yma.
Ymrwymaf i gynrychioli pobl Tonyrefail hyd eithaf fy ngallu. Credaf y bydd Plaid Cymru yn gallu creu cyngor llawer iawn gwell, wedi ei reoli’n well ac yn fwy atebol. Mae’r cyngor yn ddiffygiol mewn cymaint o feysydd. Mae’n rhaid i bethau newid yn RhCT!