Clive Henley

Clive HenleyClive Henley 1936 - 2021

Brodor o’r Graig, Pontypridd oedd Clive. Dechreuodd ei yrfa fel prentis peiriannydd cyn gweithio blynyddoedd lawer yng ngwaith cadwyni enwog Brown Lenox, Pontypridd.

Yn 60au a 70au Clive oedd Plaid Cymru Pontypridd. Roedd y Blaid Lafur yn ei hanterth bryd hynny ym Mhontypridd a gwae neb a fentrai i’w gwrthwynebu. Safodd Clive laweroedd o weithiau i gynrychioli Maesycoed yn yr etholiadau sirol. Er na chafodd ei ethol unwaith, bu ei lwyddiant yn hudo criw o Bleidwyr ifanc selog i’w gefnogi yn dyst o’i ddawn i ddenu ac ysbrydoli. Roedd ei gymeriad hoffus a’i hiwmor drygionus yn gaffaeliad mawr i swyno pobl.

Doedd dim strwythur i Blaid Cymru yn lleol ar y pryd ac ni fu neb erioed yn sefyll dros y Blaid ar gyfer San Steffan, ond drwy ymdrechion Clive dechreuwyd rhoi siâp ar bethau a chynnal cyfarfodydd yn y White Heart a’r YMCA. Un a fu’n selog yn y cyfarfodydd hyn oedd Miss Protheroe â’I het ddydd Sul a fu’n athrawes Gymraeg yn Ysgol Ramadeg y Merched Pontypridd, a degawdau rhyngddi a’r gweddill ohonom.

Roedd unrhyw beth Cymraeg a Chymreig yn golygu llawer i Clive er na allai siarad yr Iaith. Anfonodd ei dri phlentyn i’r ysgol Gymraeg ac nid hawdd o beth oedd hyn gan and oedd ganddo gar a’r daith i’r ysgol ddyddiol o filltir a hanner yn gryn ymdrech.

Bu amser pan fu raid i rieni Ysgol Pont Siôn Norton ymgyrchu yn erbyn yr awdurdod addysg lleol er mwyn sicrhau twf yr ysgol, ac yno ar flaen y gad yr oedd Clive.  Bu’n lobio’n ddiflino dros addysg Gymraeg, nid yn unig yma ym Mhontypridd ond hefyd yn San Steffan.

Mawr oedd balchder Clive am ei ran yn gwrthdystio yn erbyn y bwriad i foddi Tryweryn. Yn ddiweddarach, pan ddaeth si ar led fod capel Carmel a’r fynwent am gael eu chwalu i greu ffordd newydd, y peth cyntaf ddaeth i feddwl Clive oedd tynged bedd Evan James ysgrifennodd ein hanthem genedlaethol. Aeth ati i ysgrifennu ac anfon degau o lythyrau I bedwar ban yn ymbil ar bobl i gyfrannu i gronfa i symud y bedd i Barc Ynysangharad at y gofadail i’r tad a’r mab gyfansoddodd ein hanthem genedlaethol.

Anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at Pat, ei wraig a Siân a Sharon ei ferched. Roedd colli Clive nid yn unig yn golled fawr i’r teulu, ond hefyd i Gymreictod Pontypridd a Chymru gyfan.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Huw Day
    published this page in Hysbysiadau 2021-02-27 12:32:26 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.