‘Cynghorwyr Llanilltud Faerdre yng ngyddfau’i gilydd’
Mae mwy nag 20 o gwynion wedi cael eu hanfon at yr Ombwdsman ynghylch ymddygiad aelodau o gyngor cymunedol Cymreig dros gyfnod o 12 mis.
Drwy gais Rhyddid Gwybodaeth datgelodd yr ymgyrchydd Plaid Cymru a phreswylydd lleol, Ioan Belling y cwynion am Gyngor Cymunedol Llanilltud Faerdre oedd yn ymwneud ag atebolrwydd a chyfanrwydd, hyrwyddo cydraddoldeb a pharch at ddyletswydd i gynnal y gyfraith.
Rhwng mis Hydref 2019 a mis Rhagfyr 2019, bu 15 o gwynion, roedd chwech rhwng Ionawr a Mawrth 2020 ac un arall rhwng Gorffennaf 2020 a mis Medi 2020.
Nid oed rhifau ar gael rhwng Ebrill a Mehefin 9fed pan nad oedd un cyfarfod wedi’i gynnal.
Yn sgil y cwynion mae sesiwn rithiol ar ymddygiad yn cael ei drefnu ar gyfer y cynghorwyr a’r staff ar ddydd Iau, Medi 2il, 2021.
Dywedodd y preswylydd ac ymgyrchydd Plaid Cymru Pentre’r Eglwys, Ioan Belling: ‘’Mae cynghorwyr ar Gyngor Cymunedol Llanilltud Faerdre yn cwyno am y naill a’r llall i’r Ombwdsman Cyhoeddus. Mae’n debyg fod Cynghorwyr Llanilltud Faerdre yng ngyddfau’i gilydd yn hytrach na chynrychioli’r preswylwyr.
“Dylai pob preswylydd sy’n talu treth cyngor cymunedol i Gyngor Cymunedol Llanilltud Faerdre fod yn pryderu am nifer y cwynion a’r modd y bu’r awdurdod yn ymddwyn.
“Mae gan y cyhoedd yr hawl i ddisgwyl yr ymddygiad gorau gan aelodau awdurdodau lleol.
“Er fy mod yn cydnabod na chafodd yr un o’r cwynion eu hategu gan yr Ombwdsman, mae’r ffaith fod cymaint ohonynt wedi cael eu lleisio ar ystod o gamymddwyn yn creu pryder.
“Roedd y nifer o gwynion a leisiwyd am Gyngor Llanilltud Faerdre dros gyfnod o 12 mis yr uchaf ym mysg cynghorau cymunedol Cymru.
“Er i’r cyngor cymunedol gydnabod bod ganddynt broblemau a’u bod wedi trefnu sesiwn hyfforddi rhithiol, y gwirionedd yw bod angen dechreuad newydd ym mis Mai 2022.
“Meddyliwch am yr amser a’r arian a wariwyd gan awdurdodau cyhoeddus yn barod ar y cwynion hyn oherwydd and oedd cynghorwyr yn fodlon cyd-dynnu ac yn dal i gweryla yn lle cynrychioli eu hetholwyr”.
Mae gan y cyngor gyllid blynyddol o £264,000 a 12 o gynghorwyr – 5 Llafur, pedwar Ceidwadol a thri Annibynnol. Yn yr etholiad ym mis Mai 2022 bydd preswylwyr Cyngor Llanilltud Faerdre yn ethol 13 o gynghorwyr.