Ymateb Plaid Cymru i’r Coronafeirws
Mae Plaid Cymru yn gweithio’n ddiflino i helpu Cymru i oresgyn yr argyfwng Coronafeirws. Dyma bopeth yr ydym am i chi wybod wrth i ni weithio gyda’n gilydd i drechu’r firws.
Cliciwch yma er mwyn darllen Cynllun 7 pwynt Plaid Cymru.
Y newyddion Diweddaraf
Darllen ein cynllun yma https://www.plaid.cymru/7_point_plan
Beth y gall pawb wneud i drechu Coronafirws
Yr ydym yn annog pawb i ddilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth. O wefan Llywodraeth y DG y daeth y cyngor isod.
Aros gartref:
Gall unrhyw un ledaenu'r feirws. Beth i’w wneud os oes gennych symptomau Arhoswch gartref am 7 diwrnod os yw un o’r isod arnoch:
os ydych yn byw gyda phobl eraill, dylent aros gartref am 14 dirnod o’r dydd y cafodd y person cyntaf symptomau. Bydd hyn yn helpu i amddiffyn eraill yn eich cymuned tra byddwch yn heintus. Peidiwch â mynd i feddygfa meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Does dim rhaid i chi gysylltu ag NHS 111 i ddweud wrthynt eich bod yn aros gartref. Nid oes angen profi am goronafirws os ydych yn aros gartref. Mae’r cyngor hwn yn debyg o fod ar gael am rai wythnosau. |