Cuts to bus services in Wales could prove “catastrophic”

Creative Commns licence - Secret Coach Park

Yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai’r toriad i Gynllun Argyfwng Bysiau (BES) – a oedd i fod i ddod i ben yn wreiddiol ym mis Mawrth 2023 – yn cael ei ymestyn i fis Mehefin 2023.

Fodd bynnag, wrth siarad mewn Cwestiynau i’r Prif Weinidog, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, mai’r cyfan a wna hyn oedd oedi’r risg i wasanaethau a swyddi – pryder a godwyd yn flaenorol gan y corff diwydiant Coach and Bus Association Cymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS,

“Bydd y toriadau i wasanaethau bysiau yn dirywio’r hyn sydd, i’r rhan fwyaf o bobl, yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru, yr unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ganddyn nhw.

“Mae tri chwarter yr holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael eu gwneud ar fws, ond mae bysiau’n cael cyfran fach iawn o’r buddsoddiad sydd wedi’i glustnodi ar hyn o bryd gan y Llywodraeth ar gyfer rheilffyrdd. Bydd torri’r cyllid hwnnw ymhellach ar adeg o ostyngiad yn nifer y teithwyr a chostau cynyddol yn dirywio’r rhwydwaith bysiau; bydd yn rhoi menywod, plant, pobl ifanc, yr henoed, yr anabl, gweithwyr ar incwm isel, a chymunedau gwledig a'r Cymoedd o dan anfantais anghymesur.

“Mae torri cymhorthdal i drafnidiaeth bws yng nghanol argyfwng costau byw ymhlith y gweithredoedd mwyaf atchweliadol y mae Llywodraeth Lafur Cymru erioed wedi’u cynnig.

“Ar y diwrnod y mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyhoeddi’r adolygiad ffyrdd, sy’n amlwg yn datgan ei hymrwymiad i newid hanesyddol mewn polisi a blaenoriaeth o ffyrdd i drafnidiaeth gyhoeddus, rydym yn eu hannog i amddiffyn y rhwydwaith bysiau presennol tra’n well, yn decach, rhwydwaith trafnidiaeth gwyrddach yn cael ei adeiladu.”

 

Llun wedi defnyddio o dan trwydded Creative Commns - Secret Coach Park, CC BY-SA 2.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/2.0>, via Wikimedia Commons

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.