Croeso i Bontypridd
Mae Plaid Cymru Pontypridd, ynghyd â gweddill y dref yn croesawu gweddill y wlad i’n cornel arbennig ni o Gymru. Rydym yn sicr y byddwch yn cael amser gwych.
Mae gan Ponty lawer i’w gynnig i ymwelwyr, tafarndai bwyd gwych, clybiau a bariau yn ogystal â’r farchnad enwog. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd amser i bicio draw i Ardal Stryd y Felin sy’n cynnal digwyddiadau ymylol gwych yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Mae gan Blaid Cymru swyddfa yn y dref (2 Stryd Fawr) yr ydym yn ei rhannu gyda Heledd Fychan Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru. Ni allwch ein colli os daliwch y trên ar eich ymweliad.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod rydym wedi:
- stondin ar y Maes
- tri chyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau
- dau dderbyniad yng Nghlwb y Bont (gwahoddiad yn unig)
Byddem wrth ein bodd yn eich gweld felly dewch draw i gyflwyno eich hun.
Os ydych am wirfoddoli i'r Blaid yn yr eisteddfod eleni ebostiwch [email protected]
Yn olaf, ein cyngor da ar gyfer cyrraedd y Maes - daliwch y trên! Mae parcio'n gyfyngedig iawn ac mae traffig yn y dref yn aml yn gallu bod yn drwm felly wrth i'r slogan fynd "Let the Train Take the Strain!"
Digwyddiadau Plaid Cymru yn ystod yr Eisteddfod
Galwch heibio i stondin Plaid Cymru - 313B, ger Llwyfan y Maes - ac i'r digwyddiadau canlynol ar y maes ac yn nhref Pontypridd.
Llun, 5 Awst
Plaid Cymru’r Cymoedd: diffinio’r berthynas rhwng bywyd a bro
3:30pm | Cymdeithasau 2
Cyflwyniad gan Heledd Fychan AS a sesiwn holi ac ateb i ddilyn gyda Sioned Williams AS, Delyth Jewell AS, a Peredur Owen Griffiths AS.
Mawrth, 6 Awst
Diolch a Dathlu
4:30pm | Clwb y Bont, Pontypridd
Croeso i bob aelod o Blaid Cymru i dderbyniad gyda’n Aelodau Seneddol newydd – Llinos Medi AS ac Ann Davies AS.
Iau, 8 Awst
O Gymru Fydd i Blaid Cymru
12:30pm | Cymdeithasau 2
Ar drothwy canfed penblwydd Plaid Cymru, bydd yr Athro Richard Wyn Jones yn ystyried y gwahaniaethau a'r tebygrwydd rhwng y Blaid a'r mudiad cenedlaethol a'i rhagflaenodd - Cymru Fydd. Sesiwn wedi ei threfnu gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru
--- --- ---
Hanner canrif o wleidydda
4:30pm | Clwb y Bont, Pontypridd
Derbyniad yng nghwmni Dafydd Wigley i ddathlu 50 mlynedd ers ei ethol yn Aelod Seneddol Caernarfon yn 1974.
Gwener, 9 Awst
Adeiladu Cymru: yr achos dros newid
12pm | Cymdeithasau 1
Darlith gan Rhun ap Iorwerth AS gyda sesiwn cwestiwn ac ateb i ddilyn.
Rhaglen llawn yr Eisteddfod: https://eisteddfod.cymru/yrwyl/2024/rhaglen