Argyfwng ynni: Gostyngwch y cap prisiau a’i rewi yn awr

Gas

‘Absenoldeb rhyfeddol yr arweinyddiaeth’ gan San Steffan yn ‘hollol anfaddeuol’, medd Liz Saville Roberts

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, heddiw (Iau 25 Awst) wedi galw ar lywodraeth y DG i ddychwelyd y cap prisiau i’r lefelau yr oeddynt cyn mis Ebrill. Galwodd y blaid hefyd am i’r cap prisiau gael ei ymestyn i fusnesau bychain ac elusennau, nad ydynt wedi eu cynnwys ar hyn o bryd, ac am i gefnogaeth ariannol i aelwydydd bregus gael ei ddyblu.

Dywed Plaid Cymru y gellid talu am y polisi trwy ôl-ddyddio’r dreth elw ar olew a nwy. Maent yn ychwanegu y dylai’r argyfwng presennol fod yn “larwm” i lunwyr polisi yn San Steffan, ac yn dadlau mai’r unig ateb yn y tymor hir yw “dwyn y pum cwmni ynni mawr i ddwylo cyhoeddus a chynyddu’n radical fuddsoddiad mewn ynni gwyrdd ac insiwleiddio cartrefi”.

Beirniadodd Ms Saville Roberts yr ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid Doriaidd Liz Truss a Rishi Sunak am “gerdded yn eu cwsg i argyfwng ynni trychinebus”, gan ychwanegu, heb gamau brys gan lywodraeth San Steffan i ostwng biliau, “y bydd pobl yn dioddef mewn modd na ellir ei ddychmygu mewn economi flaengar yn yr 21ain ganrif”.

Ychwanegodd Liz Saville Roberts AS :

“Rydym yn cerdded yn ein cwsg i argyfwng ynni trychinebus gyda miliynau o bobl yn wynebu tlodi enbyd y gaeaf hwn. Ac eto mae ein harweinwyr honedig yn San Steffan yn rhy brysur yn syllu ar eu bogeiliau eu hunain i gymryd unrhyw sylw. Mae absenoldeb rhyfeddol arweinyddiaeth yn ystod yr argyfwng hwn yn hollol anfaddeuol.

“Does dim ots gan bobl Cymru pwy fydd yn cael ei goroni yn brif weinidog ymhen pythefnos. Yr hyn sydd o bwys iddynt yw beth wnaiff Liz Truss neu Rishi Sunak i ostwng eu costau sydd wedi saethu i’r entrychion. Nid yw ymrwymiad niwlog i ‘ddigwyddiad ariannol’ yn ddigon.

“Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DG i ddychwelyd y cap prisiau i’r lefelau yr oeddynt cyn mis Ebrill ar gyfer tariff safonol-amrywiol a mesuryddion talu-ymlaen-llaw. Dyna’r unig ffordd i amddiffyn teuluoedd sy’n cael anawsterau.

“Mae busnesau bychain fel siopau’r gornel, ffermydd a chyflenwyr bwyd yn wynebu biliau sy’n saethu i fyny, ac ni fydd cap prisiau yn eu hamddiffyn. Mae Plaid Cymru felly yn cefnogi galwad Ffederasiwn y Busnesau Bychain am i’r cap prisiau gael ei ymestyn i fusnesau bychain ac elusennau.

“Rhaid dyblu’r taliad costau byw o £650, ac adolygu’r meini prawf cymhwyster er mwyn cynnwys y sawl sydd ar fudd-daliadau anabledd, nad ydynt wedi eu cynnwys ar hyn o bryd.

“I dalu am hyn, rhaid ymestyn ac ôl-ddyddio’r dreth elw ar y cwmnïau olew a nwy. Mae elw tanwyddau ffosil wedi cyrraedd lefelau gwarthus, gyda phenaethiaid y cwmnïau ynni yn gwneud biliynau ar draul y tlotaf.

“Mae llawer o’n cymunedau eisoes ar ddibyn tlodi, ac yn goroesi’n unig diolch i haelioni banciau bwys a mudiadau cymunedol lleol. Heb gamau brys gan lywodraeth San Steffan i ostwng biliau, bydd pobl yn dioddef mewn modd na ddylid ei ddychmygu mewn economi flaengar yn yr 21ain ganrif.

“Dylai’r argyfwng hwn hefyd seinio larwm i San Steffan am ansefydlogrwydd a bregusrwydd ein systemau ynni. Dywed Plaid Cymru yn glir mai ateb tymor-hir allweddol i osgoi argyfyngau ynni yn y dyfodol yw dwyn y pum cwmni ynni mawr i ddwylo cyhoeddus a chynyddu yn radical fuddsoddiad mewn ynni gwyrdd ac insiwleiddio cartrefi. Ni ddylem anghofio fod Cymru ar hyn o bryd yn cynhyrchu dwywaith yn fwy o ynni na’r hyn a ddefnyddiwn, ond eto ein bod yn talu costau uwch am drydan. Mae’r amser wedi dod i Gymru elwa’n llawn o werth yr hyn rydym yn gynhyrchu a’i allforio.”

 

Cynllun Plaid Cymru:

  1. Gostwng a rhewi’r cap prisiau ynni: Dychwelyd y cap prisiau i’r lefelau yr oeddynt cyn mis Ebrill am y tariff safonol-amrywiol (£1,277) a mesuryddion talu-ymlaen-llaw (£1,309).
  2. Ymestyn y cap i fusnesau bach ac elusennau: Ymestyn y cap prisiau i fusnesau bychain ac elusennau nad ydynt wedi eu cynnwys ar hyn o bryd.
  3. Cefnogaeth ariannol ychwanegol i aelwydydd bregus: Dyblu’r taliad costau byw o £650.  Adolygu meini prawf cymhwyster am y taliad costau byw i gynnwys y sawl sydd ar fudd-daliadau anabledd, megis PIP a DLA, nad ydynt wedi eu cynnwys ar hyn o bryd.
  4. Ôl-ddyddio ac ymestyn y dreth elw ar olew a nwy: Mae Plaid Cymru wedi ymuno â galwadau gan wrthbleidiau eraill i ymestyn y dreth elw bresennol. Gellid ehangu’r dreth hefyd i gwmnïau cyfleustodau eraill.
  5. Ynni mewn dwylo cyhoeddus: Yr unig ateb tymor-hir i’r argyfwng y dwyn y pum cwmni ynni mawr i ddwylo cyhoeddus, cynyddu buddsoddiad mewn ynni gwyrdd, ac ymgyrch i insiwleiddio cartrefi.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Huw Day
    published this page in Newyddion 2022-08-31 15:53:46 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.