Fflur Elin yw ein hymgeisydd
Fflur Elin o Donyrefail sydd wedi ei dewis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Pontypridd.
Meddai Fflur:
Fy enw i yw Fflur a dw i’n byw yn Nhonyrefail gyda fy nheulu. Ar hyn o bryd fi yw Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ac mae gen i record o ennill ar gyfer myfyrwyr. Dw i wedi sicrhau ad-daliadau rhent ar gyfer myfyrwyr oedd yn byw mewn tai o safon wael ac wedi chwarae rhan mewn sicrhau fod y system addysg uwch newydd yng Nghymru yn un sydd yn gweithio i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel a myfyrwyr sydd â dyletswyddau gofalu.
Fel nifer ohonoch chi, dw i wedi teimlo’n rhwystredig o weld effaith toriadau a hefyd diffyg gweledigaeth ar gyfer ein cymuned. Rydw i am wneud yn siŵr fod ein llais yn cael ei glywed ac nad yw Cymru’n dioddef yn ariannol wedi Brexit.
Os caf fy ethol, bydda i’n gweithio’n galed dros Bontypridd a thros Gymru. Gyda’ch cefnogaeth ar Fehefin 8fed gallwn ni ddangos fod gan Gymru lais ac y gallwn ddewis ffordd well, ffordd newydd, sydd ddim wedi ei gyrru gan ofn a chasineb.