Llywodraeth Cymru’n “Llaesu dwylo tra bod Cymru’n rhewi”

Llaesu dwylo tra bod Cymru’n rhewi“Roedd Plaid Cymru yn gweld hyn yn dod. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gweithredu. Yn y cyfamser mae Llafur Cymru yn llusgo eu sodlau. Mae angen rhewi rhent a gwahardd troi allan tenantiaid yng Nghymru, rwan.” – Mabon ap Gwynfor AS

Mae pwysau Plaid Cymru wedi gorfodi Llywodraeth Cymru i edrych eto ar ddeddfu rhewi rhent a moratoriwm ar droi allan tenantiaid.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar dai, Mabon ap Gwynfor AS, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “lusgo eu sodlau” dros ddechrau’r “gwaith hollbwysig yma.”

Yr wythnos ddiwethaf ym mhwyllgor y Senedd dros Lywodraeth Leol a Thai, galwodd Mr ap Gwynfor eto am waharddiad ar bob gorchymyn troi allan ac i bob rhent gael ei rewi tan ar ôl y gaeaf, fel y cyhoeddwyd yn Yr Alban.

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Gweinidog sy'n gyfrifol am dai, Julie James AS, ei bod yn edrych ar opsiynau a'i bod “yn mynd ati i gysylltu” â Llywodraeth yr Alban, er nad oedd wedi mynd ati i adolygu eu hymchwil eto.

Daeth y cyhoeddiad gan Lywodraeth Yr Alban ei bod am rewi rhenti a gwahardd troi pobl allan ar 6 Medi, ac mae disgwyl i fesurau'r Alban aros yn eu lle tan ddiwedd mis Mawrth 2023.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar dai a chynllunio, Mabon ap Gwynfor AS:

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn llaesu dwylo tra bod Cymru yn rhewi. Does dim synnwyr o frys, ac yn y cyfamser, mae’r gaeaf oer yn agosáu.

“Dylai’r gwaith hwnnw fod wedi ei gomisiynu a’i gwblhau cyn gynted â phosib, ac eto rydyn ni’n darganfod fod Llywodraeth Cymru dal wrthi yn casglu tystiolaeth.

“Roedd Plaid Cymru yn gweld hyn yn dod o bell ac wedi ailadrodd ein galwadau ar bob cyfle. Bu nifer o ymgyrchwyr ac elusennau gwrth dlodi, gan gynnwys Shelter Cymru, yn galw am hyn. Mae’n amlwg bod Llywodraeth yr Alban wedi gwneud eu gwaith. Yn y cyfamser mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn llusgo ei sodlau.

“Mae amser yn brin iawn, ac mae angen i Lywodraeth Cymru nodi eu hamserlen ar frys ar gyfer pryd y gellid gweithredu, oherwydd bydd y gaeaf arnom cyn i ni wybod hynny.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.