Brwydr dros Gyfiawnder i Ddioddefwyr Llifogydd yn Parhau Flwyddyn yn Ddiweddarach

Adroddiad llifogydd

"Mae'r angen am Ymchwiliad Annibynnol yn parhau, ac mae'r frwydr yn parhau nes i ni sicrhau cyfiawnder i'r rhai yr effeithiwyd arnynt a buddsoddiad mewn mesurau atal llifogydd. Ni fydd ein cymunedau'n gallu gorffwys hyd nes y bydd hyn yn digwydd, ac rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl, a sefydlu Ymchwiliad Annibynnol fel mater o frys."

Ar noson 15 Chwefror ac oriau mân 16 Chwefror 2020, tarodd Storm Dennis a dioddefodd dros 1000 o gartrefi a busnesau ar draws RhCT lifogydd dinistriol. Flwyddyn yn ddiweddarach, gellir gweld a theimlo'r effaith o hyd. Ychydig iawn sydd wedi ei wneud i dawelu meddyliau’r rhai yr effeithiwyd arnynt y byddai'r sefyllfa'n wahanol pe bai storm debyg yn taro'r ardal eto.

Mae Cynghorydd Plaid Cymru ac Ymgeisydd y Senedd Heledd Fychan wedi bod ar flaen y gad o ran ymgyrchu dros Ymchwiliad Annibynnol i'r Llifogydd, a thrwy ddeiseb a gefnogwyd gan dros 6,000 o bobl, gorfododd drafodaeth ar y mater yn y Senedd ym mis Rhagfyr 2020.

Ynghyd â Leanne Wood AS, a'i chyd-Gynghorwyr Plaid Cymru yn RhCT, mae'n parhau i frwydro dros gyfiawnder i'r rhai yr effeithiwyd arnynt, fel bod gwersi'n cael eu dysgu, a buddsoddiad yn cael ei roddi mewn i fesurau atal llifogydd. Byddai hyn yn sicrhau bod cartrefi a busnesau'n cael eu hamddiffyn cyn belled ag y bo modd yn y dyfodol.

Hyd yma, mae cynrychiolwyr Llafur wedi pleidleisio yn erbyn Ymchwiliad Annibynnol, er bod ASau Llafur sy'n cynrychioli Pontypridd, Rhondda a Chwm Cynon wedi cefnogi ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Lloegr.

Yn siarad flwyddyn union wedi’r llifogydd, dywedodd y Cynghorydd Fychan: "Flwyddyn yn ddiweddarach, mae ein cymuned yn dal i ddioddef trawma oherwydd y llifogydd. Dinistriwyd cartrefi, busnesau a strwythurau, ac mae gwaith atgyweirio yn dal i fynd rhagddo.

"Newidiwyd bywydau hefyd, gyda nifer o bobl yn dal i ddioddef iechyd corfforol a meddyliol gwael o ganlyniad i'r llifogydd, heb sôn am ddioddef yn ariannol. Yn waeth na dim, nid oes ganddynt yr atebion o hyd o ran bethaeth o'i le a pham, a sut y cânt eu cefnogi a'u diogelu yn y dyfodol.

"Mae'r angen am Ymchwiliad Annibynnol yn parhau, ac mae'r frwydr yn parhau nes i ni sicrhau cyfiawnder i'r rhai yr effeithiwyd arnynt a buddsoddiad mewn mesurau atal llifogydd. Ni fydd ein cymunedau'n gallu gorffwys hyd nes y bydd hyn yn digwydd, ac rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl, a sefydlu Ymchwiliad Annibynnol fel mater o frys."

Fe wnaeth y Cynghorydd Fychan hefyd dynnu sylw at y cannoedd o roddion a dderbyniwyd yn dilyn y llifogydd, yn ogystal â'r gwirfoddolwyr a gefnogodd ymdrechion adfer, gan dalu teyrnged i'w gwaith: "Gwelsom y gymuned hefyd ynghyd yn dilyn y llifogydd, gyda channoedd o bobl yn gwirfoddoli eu hamser a'u sgiliau i roi cymorth ymarferol i'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn ogystal â chodi symiau sylweddol o arian i’w cefnogi.

"Mae nifer o’r fwirfoddolwyr wedi mynd ymlaen i barhau i gefnogi eraill yn ystod y pandemig, gan ddangos bod ysbryd cymunedol yn parhau'n gryf yn yr ardal. Rwy'n ddiolchgar i bob un ohonynt, a hoffwn ddiolch iddynt am y gwahaniaeth cadarnhaol y maent wedi'i wneud i fywydau cynifer o bobl yn ystod y cyfnod mwyaf heriol hwn."

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Huw Day
    published this page in Newyddion 2021-02-15 11:30:21 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.