Pleidleisiwyr Tro Cyntaf

pleidlais 16

Mis Mai eleni, mae Cymru'n ymuno â rhestr gynyddol o wledydd lle gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio mewn etholiadau. Mae'r Alban wedi bod yn gwneud hyn ers nifer o flynyddoedd bellach ac erbyn hyn mae'n digwydd yma yng Nghymru o'r diwedd!

Gall dewis pwy i'w gefnogi fod yn anodd. I'ch helpu i benderfynu, yma ar y dudalen hon mewn peth gwybodaeth am Blaid Cymru a'n hymgeisydd yma ym Mhontypridd, Heledd Fychan. Mae gwybodaeth hefyd am gyfarfodydd ar-lein wedi'u trefnu'n benodol ar gyfer pleidleiswyr tro cyntaf fel y gallwch drafod y materion sy'n bwysig i chi'n uniongyrchol gyda Heledd.

Mae Heledd yn byw ym Mhontypridd, ac ers 2017, mae wedi cynrychioli'r dref ar Gyngor RhCT a Chyngor Tref Pontypridd. Mae wedi gweithio'n ddiflino gyda, ac ar ran, pobl o bob oed ar nifer o ymgyrchoedd gan gynnwys sicrhau mwy o ddarpariaeth clybiau ieuenctid, cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion a cholegau i roi terfyn ar dlodi mislif, a chadw dosbarthiadau chweched dosbarth yn ardal ehangach Pontypridd. Mae'r argyfwng hinsawdd hefyd yn flaenoriaeth allweddol iddi, ac mae wedi ymgyrchu i annog ein Llywodraeth i gymryd camau brys i achub ein planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hi hefyd wedi arwain galwadau am Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd 2020, fel y gallwn ddeall yn well effaith newid hinsawdd ar lifogydd yng Nghymru a sicrhau cyfiawnder i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

Mae Heledd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, ac eisiau gweld penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru. Mae wedi cael llond bol ar weld mwy a mwy o anghydraddoldeb yn ein cymdeithas, ac mae'n credu bod arnom angen Llywodraeth sy'n creu Cymru fwy cyfartal, i bawb. Plaid Cymru yw'r unig blaid sy'n sefyll yn yr etholiad hwn a fydd yn ymgyrchu dros annibyniaeth ac yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth, fel y gall pobl Cymru benderfynu ar ddyfodol ein cenedl.

Er mwyn i chi gael cyfle i siarad â hi'n uniongyrchol, mae Heledd wedi trefnu nifer o gyfarfodydd yn benodol ar gyfer pleidleiswyr newydd ynghyd ag Efan Fairclough, a oedd tan yn ddiweddar yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Digwyddodd y cyntaf ar 25 Mawrth, ac roedd y pynciau'n cynnwys yr argyfwng hinsawdd, dyfodol addysg, gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc, anghydraddoldeb a chyflogaeth. Er bod nifer o fynychwyr wedi rhannu eu barn ac wedi gofyn cwestiynau, roedd eraill wedi dim ond gwrando. Mae croeso mawr i chi ymuno ag un o'r ddau o sesiynau sy'n weddill:

 

 Archebwch nawr ar gyfer 8fed o Ebrill - 5.30pm: Click here to go to Eventbrite 

  (Mae angen cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn)

 

 Archebwch nawr ar gyfer 22ain o Ebrill - 5.30pm: Click here to go to Eventbrite 

  (Mae angen cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn)

 

Fel arall, mae croeso i chi gysylltu'n uniongyrchol â Heledd gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych naill ai drwy'r cyfryngau cymdeithasol neu drwy e-bostio [email protected]

Cysylltwch â ni hefyd os hoffech gefnogi'r ymgyrch. 

 

Mae mwy o wybodaeth ynglyn a'r hyn rydym yn credu arno ar y wefan ho a hefyd gwefan genedlaethol y Blaid: www.plaid.cymru

 

Mae mwy o wybodaeth am y Senedd i'w weld yn y fideo yma:


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Huw Day
    published this page in Ymgyrchoedd 2021-03-02 21:37:17 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.