Mae Graigwen yn haeddu gwell
Mae'r ddeiseb hon bellach wedi'i chyflwyno gan y Cyng Heledd Fychan i RCT.
Diolch am eich cefnogaeth.
Rydym ni, trigolion Graigwen ym Mhontypridd, yn galw ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i fynd i’r afael ar frys â nifer o faterion sy’n effeithio ar Graigwen. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Goryrru: mae hwn yn fater sy'n effeithio ar Graigwen Hill a hefyd strydoedd o amgylch yr amrywiol stadau, yn enwedig Whiterock Avenue, Whiterock Drive, Whiterock Close a Mayfield Road. Bu nifer o wrthdrawiadau a lladdwyd nifer o anifeiliaid, a dim ond mater o lwc ydi o nad oes unrhyw berson wedi eu llad. Mae arnom angen mesurau tawelu traffig fel mater o frys, a gofynnwn i'r Cyngor rannu cynllun â thrigolion ar sut y byddant yn cyflawni'r newidiadau sy'n ofynnol. Mae angen mannau croesi diogel arnom hefyd yng nghanol Graigwen Hill, rhwng y tai i fyny o'r siop i droiad Pantygraigwen a'r strydoedd gyferbyn.
- Palmentydd: mae ansawdd llawer o'r palmentydd yn enbyd, gyda llawer heb eu huwchraddio ers i'r stadau gael eu hadeiladu. Mae'r palmentydd yn nhop Graigwen yn arbennig o wael, ac mae angen eu hadnewyddu. Gofynnwn i'r Cyngor rannu gyda thrigolion eu cynllun ar gyfer cyflawni'r newidiadau sydd eu hangen, er mwyn gwella diogelwch ein llwybrau.
- Mae parcio ar balmentydd ac yn agos at gyffordd yn faterion sy'n peri pryder mawr, a hoffem weld y Cyngor yn mynd ati'n fwy rhagweithiol i atal pobl rhag gwneud y ddau. Mae angen mwy o linellau melyn dwbl ar y bryn hefyd, i atal parcio peryglus a mwy yn cael ei wneud i atal pobl rhag parcio ar balmentydd, sydd yn gorfodi cerddwyr i mewn i'r ffordd wrth gerdded o amgylch yr ardal.
- Gwasanaeth bws. Mae angen adolygiad o'r gwasanaeth bysiau ar frys, fel bod y gwasanaeth yn cael ei wella a bod y llwybr yn ymestyn i ran uchaf Graigwen a bod yr oriau hefyd yn cael eu hymestyn. Mae angen arosfannau bysiau arnom hefyd sy'n darparu cysgod rhag y glaw, ac rydym yn annog Cyngor RhCT i weithio gyda Chyngor Tref Pontypridd i wella'r un ar Whiterock Avenue gan nad yw'n darparu unrhyw gysgod pan fydd hi'n bwrw glaw ar hyn o bryd oherwydd nad oes ganddo ochrau.
Gwrandewch ar ein barn a gwella diogelwch ein cymuned.
![]() |
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter