Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ganol De Cymru Heledd Fychan – a oedd yn Gynghorydd dros Ward Tref Pontypridd pan darodd Storm Dennis ym mis Chwefror 2020 yn croesawu’r adolygiad.
“Dros ddwy flynedd ers y dinistr yn 2020, nid yw pob adroddiad i’r llifogydd wedi’i gyhoeddi ac nid yw trigolion a pherchnogion busnes yn gwybod o hyd beth ddigwyddodd na pham, nac a fydd eu cartrefi a’u busnesau yn ddiogel rhag llifogydd yn y dyfodol.” meddai hi.
“Mae pobl yn parhau i gael eu trawmateiddio gan yr hyn a ddigwyddodd, a dal ddim yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi bob tro y mae'n bwrw glaw yn drwm. Gyda’r newid yn yr hinsawdd yn golygu bod y tebygolrwydd o lifogydd yn parhau i dyfu, rhaid inni sicrhau ein bod yn deall beth y gall cynghorau lleol a’r Llywodraeth ei wneud i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt, ond yn hanfodol lleihau’r risg i’n cymunedau.
“Mae’r digwyddiadau hyn yn debygol o ailadrodd eu hunain yn amlach ym mhob rhan o Gymru, felly mae dysgu gwersi’r llifogydd hyn yn hollbwysig. Rwy’n croesawu’r ffaith bod Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau adolygiad, sy’n gam cyntaf pwysig i sicrhau atebion a chyfiawnder i bawb yr effeithiwyd arnynt.”
‘Dysgu gwersi’
Mae’r Athro Elwen Evans QC, un o brif fargyfreithwyr troseddol y DU, wedi’i phenodi i arwain yr adolygiad.
Bydd yr Athro Evans yn cael y dasg o sefydlu canfyddiadau allweddol, pryderon a rennir, gwersi a ddysgwyd, llwyddiannau ac arfer da, yn ogystal â nodi meysydd i'w gwella.
Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru Sian Gwenllian:
“Rydym wedi gweld yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei chael ar ein cymunedau a’n busnesau. Ochr yn ochr â gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd a sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan i fynd i’r afael ag ef, bydd mynd i’r afael ag atal llifogydd a dysgu o lifogydd dinistriol 2020-21 yn gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch a thawelwch meddwl pobl ledled Cymru.
“Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos i ddatblygu cwmpas a dull gweithredu’r adolygiad pwysig hwn fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu, ac edrychaf ymlaen at y canfyddiadau.”