Rydym ni, sydd wedi llofnodi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf i wrthdroi eu penderfyniad i apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys parthed ad-drefnu ysgolion yn ardal Pontypridd.
Ar Fedi 24ain 2020, cyhoeddodd Cyngor Rhondda Cynon Taf y byddent yn apelio yn erbyn canlyniad yr Adolygiad Barnwrol parthed ad-drefnu a fyddai wedi gweld ysgolion a dosbarthiadau chweched dosbarth yn cau, ac a fyddai'n cael effaith mawr ar fynediad cyfartal i addysg Gymraeg.
Rydym yn galw ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru i roi gorau i'w hapêl ac yn hytrach ymgysylltu â chymunedau lleol i ddatblygu cynlluniau amgen, yn hytrach na dilyn y camau costus hyn.
Llofnodwch a rhannwch i leisio'ch barn!