Ioan Bellin

Ioan_Bellin.jpgRydw i wedi byw ym Mhentre'r Eglwys am y 5 mlynedd diwethaf gyda fy nheulu.

Rwy'n sefyll ar gyfer y Cyngor Cymuned a'r Cyngor Sir er mwyn cefnogi'r bobl sy'n byw yn y ward, i wella ein hardal ac i fod yn bencampwr dros Bentre'r Eglwys

Pam Plaid Cymru? Oherwydd taw Plaid Cymru yw'r blaid leol. Rydym ar eich ochr chi.

Yn y cyfnod ansicr hwn, mae Plaid Cymru eisiau gwneud i wleidyddiaeth weithio eto, ac mae
hynny'n dechrau gyda gwella bywydau pob dydd pobl ar lefel gymunedol. Rydym yn rhoi polisïau
gerbron yn yr etholiad hwn er mwyn cryfhau ein cymunedau tra'n gofalu am y bobl mwyaf bregus
ac amddiffyn dyfodol ein plant.

Rwy'n rheolwr swyddfa i'r Aelod Cynulliad Simon Thomas ac yn gweithio o'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Rwy'n gynnewyddiadurwr i HTV Wales a'r BBC.

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.