Cyrhaeddodd deiseb Plaid Cymru yn galw am ymchwiliad i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf y 5000 o lofnodion angenrheidiol, a bydd nawr yn cael ei ystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.
Sefydlwyd y ddeiseb gan y Cynghorydd dros dref Pontypridd ac ymgeisydd y Senedd Heledd Fychan, i alw am ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a cyhoeddus i’r llifogydd effeithiodd cartrefi a busnesau ar draws Rhondda Cynon Taf yn gynharach eleni.
Llofnodwyd y ddeiseb gan ychydig dros 6,000 o bobl a bydd nawr yn cael ei drafod gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd pan fydd Aelodau’r Senedd yn dychwelyd o doriad yr haf.
Wrth ymateb i lwyddiant y ddeiseb, dywedodd y Cynghorydd Fychan: "Dechreuais y ddeiseb hon ar ran y trigolion a'r busnesau gafodd eu heffiethio gan y llifogydd, i sicrhau yr atebion y maent yn eu haeddu. Rhaid inni yn awr gael ymchwiliad brys, cyflym a manwl, fel bod eu profiadau'n cael eu clywed. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau'r buddsoddiad sydd ei angen i atal hyn rhag digwydd eto.
"Mae pobl yn byw mewn ofn bob tro y ceir glaw trwm, ac nid yw'r buddsoddiad hyd yma yn agos at fod yn ddigonol. Gyda'r tywydd yn mynd yn fwy eithafol oherwydd y newidiadau i'n hinsawdd, rhaid i ni sicrhau bod ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd yn ddigonol yn ogystal â rhoi mwy o gymorth i'r rhai sydd mewn perygl o lifogydd."