Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Keith Davies fu’n un o Gymry pybyr yr ardal am ddegau o flynyddoedd. Treuliodd ei ddyddiau cynnar yn Solfach ac Abergwaun cyn astudio yng Ngholeg y Drindod. Yno y cwrddodd â Margaret a ddaeth yn wraig annwyl iawn iddo. Ar ôl cyfnod yn y Ddraenen Wen ymgartrefodd yn Nhonteg a chael swydd yn Ysgol Bryn Celynnog. Ganed tri o blant iddynt sef Elin, Rhys ac Owain.
Un o ddiddordebau mawr Keith oedd canu a pherfformio. Bu’n aelod a phrif leisydd y grwpiau Traddodiad a Ffaro, a phinacl ei gyfansoddiadau a’i berfformiadau oedd y gân, ‘Y Twrch Trwyth’.
Roedd Keith yn aelod gweithgar iawn o’i gymuned ac fe gafodd ei ethol yn Gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Taf Elai (1991 - 1996) ac ar Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref (1986 - 2000), lle y profodd ei hun yn gynrychiolydd poblogaidd iawn. Y grŵp yma oedd y grŵp Plaid Cymru cyntaf i gynrychioli’r ardal ac etholwyd Keith yn gadeirydd pwyllgor datblygiad economaidd y cyngor.
Un o ymgyrchoedd pwysicaf Keith oedd y syniad o gael canolfan i hybu Cymreictod ym Mhontypridd. Roedd ei ran yn sefydlu Clwb y Bont yn allweddol. Rhoddodd cymaint o’i egni er mwyn sicrhau bod y dyddiau cynnar yn llwyddiannus, a bu’n gweithio’n ddiflino gyda Margaret i hybu’r achos yn yr ardal. Mawr oedd ei golled pan fu farw Margaret yn 1998.
Yn ei flynyddoedd diweddar bu’n byw yn yr Eglwys Newydd ac fe fu’n ffodus i gwrdd â’i gymar, Sandra. Anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at Elin, Rhys, Owain a Sandra, a mawr yw ein colled ninnau ym Mhontypridd ar ôl ymadawiad un fu mor ymroddedig i’w wlad.