Polisi economaidd llafur yn methu ar gyfer y cymoedd

geograph-5209216-by-Alan-Hughes.jpg

Nid oes gan bolisi economaidd Llafur ar gyfer y Cymoedd "y gallu i drawsnewid"

Heddiw, mae Adam Price AC, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru, wedi beirniadu polisi economaidd Llywodraeth y Blaid Lafur ar gyfer cymunedau'r Cymoedd, gan honni "nad oes ganddo'r gallu i drawsnewid."

Dadleuodd Adam Price AC, os yw i lwyddo, mae angen troi tasglu'r Cymoedd yn "gorff sy’n cyflawni" gyda chyllid a dylanwad digonol.

Dywedodd Adam Price AC Plaid Cymru:

"Nid yw'r system ar gyfer cyflawni polisi Cymoedd Llywodraeth Cymru o'r raddfa sy'n ofynnol i ddelio gyda'r her wrth adfywio cymunedau'r Cymoedd.

"Nid oes gan Dasglu sydd heb unrhyw gyllideb go iawn a dim dylanwad gwleidyddol y tu mewn na'r tu allan i'r llywodraeth, y gallu i drawsnewid.

"Cymharwch hyn gyda Rhanbarthau'r Dinasoedd sydd â digon o arian a dylanwad gwleidyddol.

"Er mwyn trawsnewid y Cymoedd yn effeithiol mewn ffordd a fydd yn gwella bywydau'r bobl sy'n byw yno, mae angen i'r Tasglu gael ei droi'n gorff effeithiol sy’n cyflawni gyda'r arian a'r dylanwad sydd ei angen er mwyn gwneud hynny.

"Hyd nes y bydd hynny'n digwydd, bydd y Cymoedd yn anffodus bob amser ar ochr colli'r rhaniad economaidd".


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.