“Mae dros 8 miliwn tunnell o blastig yn cyrraedd y moroedd bob blwyddyn, ac y mae hyn yn effeithio ar o leiaf 136 rhywogaeth o fywyd y môr, megis adar y glannau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Blaid Cymru, mae’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi dweud y bwriada Llywodraeth Cymru wahardd meicro-gleiniau.
Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas AC y Canolbarth a’r Gorllewin:
“Os ydych yn hoff o bysgod cregyn, gallwch fod yn llyncu hyd at 11,000 darn o feicroblastig bob blwyddyn.
“Byddai gwaharddiad ar gynhyrchu a gwerthu colur sy’n cynnwys meicro-gleiniau plastig yn helpu i dorri i lawr ar swm y plastig yn ein moroedd ac ar hyd ein glannau.”
Yn ei hateb i gwestiwn ysgrifenedig, dywed yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths:
“Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gosod gwaharddiad ar gynhyrchu a gwerthu colur a chynhyrchion gofal personol sydd yn cynnwys meicro-gleiniau plastig. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn nes ymlaen eleni ar weithredu a gorfodi’r gwaharddiad yng Nghymru. Bydd gwahardd y cynhyrchion hyn yn helpu i leihau swm y plastig fydd yn mynd i amgylchedd y môr.”