Nadine i Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd

Nadine MarshallCafodd Nadine Marshall ei geni a’i magu ym Mro Morgannwg. Mae’n siarad Cymraeg, ac y mae Nadine yn byw gyda’i theulu yn y Barri, a chanddi 3 o blant ac 1 wŷr.

Cyn cyfnod o weithio fel cydlynydd addysgol ar draws de-ddwyrain Cymru, bu Nadine yn gweithio fel darlithydd mewn addysg a gofal plant.

Oherwydd amgylchiadau personol trychinebus, daeth Nadine yn gyfarwydd â’r system gyfiawnder a’r ffordd y mae’n gweithio. Wedi i’w mab hynaf, Conner, gael ei lofruddio mewn modd erchyll, cynhaliodd Nadine ymgyrch am bedair blynedd i herio a newid polisïau’r llywodraeth ynghylch rhannu gwybodaeth, diwygio gweithdrefnau a chydnabyddiaeth i deuluoedd y mae llofruddiaeth wedi effeithio arnynt.


O ganlyniad uniongyrchol i’w gwaith, diwygiwyd canllawiau’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn 2019, gan ganiatáu i deuluoedd dioddefwyr fynd at wybodaeth oedd gynt wedi ei gadw’n ôl. Hefyd, sicrhaodd Nadine arfer gwaith cadarn ac atebol a goruchwyliaeth gan reolwyr yn y gwasanaeth.

Brwdfrydedd ac ymrwymiad Nadine dros roi llais y bobl wrth galon plismona a’r system cyfiawnder troseddol yw’r rheswm pam ei bod yn sefyll i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd nesaf Heddlu De Cymru.

Nod Nadine yw rhoi llais a chefnogaeth i’r bobl mewn cymunedau sydd yn aml yn fregus, deall beth mae ar gymunedau ei angen gan wasanaeth yr heddlu yn ychwanegol at gefnogi agweddau amrywiol a thrwm plismona ar hyd a lled de Cymru.

Mae Nadine yn credu fod gweithio mewn partneriaeth ar gyfer materion hanfodol yr heddlu yn hanfodol er mwyn cyflwyno gwasanaeth heddlu safonol, modern a pherthnasol ar draws de Cymru.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.