Deddf Natur i "daclo argyfwng bioamrywiaeth"

Heddiw, mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llyr Gruffydd AS, wedi cyhoeddi y byddai ei blaid yn cyflwyno Deddf Natur arloesol pe bai'n ennill yr etholiad ym mis Mai i fynd i'r afael â'r "argyfwng bioamrywiaeth" sy'n wynebu Cymru.

Dywedodd Llyr Gruffydd fod yr argyfwng cynyddol yn tanseilio'r gwasanaethau hanfodol a ddarperir i gymdeithas yn ôl natur – bwyd, aer a dŵr glân, deunyddiau, meddygaeth a mwy – a bod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru bellach dan fygythiad o ddifodiant.

 

Beirniadodd Lywodraeth Lafur Cymru am beidio â rhoi eu Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar sail statudol, gan ychwanegu y byddai Plaid Cymru yn cyflwyno targedau cyfreithiol rwymol i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050.

Dywedodd Llyr Gruffydd o Blaid Cymru:

"Mae dwy flynedd ers i'r Senedd gefnogi cynnig Plaid Cymru i ddatgan argyfwng hinsawdd yng Nghymru.

"Mae'r argyfwng hwnnw bellach yn rhan sefydledig o ymwybyddiaeth y cyhoedd, ond nid yw'r argyfwng cyfochrog sy'n wynebu natur a bioamrywiaeth yn cael y sylw mae'n haeddu.

"Nid yw dull presennol Llywodraeth Lafur Cymru o adfer natur yn ddigon. Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru bellach dan fygythiad o ddiflannu.

"Er bod Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru y llywodraeth yn cydnabod yr angen i wella tystiolaeth, dealltwriaeth a gweithgarwch monitro, nid yw hyn ar sail statudol fel y dylai fod.

"Gyda natur bellach ar erchwyn y dibyn, byddai llywodraeth Plaid Cymru ar ôl etholiad mis Mai yn ymrwymo i gyflwyno Deddf Natur, gan ddatgan Argyfwng Natur yn ffurfiol a gosod targedau cyfreithiol rwymol i adfer bioamrywiaeth ar dir a môr erbyn 2050.

"Byddem yn ymrwymo i adael yr amgylchedd naturiol mewn cyflwr gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan adeiladu tuag at adfer pob cynefin posibl.

"Ni fyddai hyn yn disodli camau gweithredu mewn ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd ond yn hytrach yn ei ategu. Mae'r ddau yn fygythiadau uniongyrchol sy'n haeddu polisïau radical i fynd i'r afael â'r heriau hyn sydd wedi'u cydblethu.

"Mae Plaid Cymru yn benderfynol ac wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy - i fyd natur, i Gymru, a'r byd."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Huw Day
    published this page in Newyddion 2021-03-22 10:28:40 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.