Polisi economaidd llafur yn methu ar gyfer y cymoedd
Nid oes gan bolisi economaidd Llafur ar gyfer y Cymoedd "y gallu i drawsnewid"
Newyddion Gwanwyn Tref Pontypridd
Mae llawer wedi digwydd ym Mhontypridd dros y misoedd diwethaf, ac rwy'n gobeithio y bydd y cylchlythyr hwn yn fudd i chi. Yn bennaf mae'n newyddion da, cadarnhaol ond yn anffodus mae peth negyddol hefyd. Fel bob amser os oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i’ch helpu, cysylltwch â mi. Byddwn wrth fy modd clywed gennych.
Cofion,
Cyng Heledd Fychan
Newyddion Gwanwyn Tonyrefail
Park Lane
Y stâd ofnadwy ar yr ffordd yn arwain at y feddygfa yw’r rhwystr fwyaf i unrhywun sydd am weld y meddyg. Mae nifer o bobl wedi cysylltu â fi am y tyllau yn Park Lane, a dw i wedi ysgrifennu at y cyngor nifer o weithiau. Yn dilyn cyfarfod gyda’r grŵp fforwm cleifion, ysgrifennais eto at y cyngor, ond y tro hwn dywedon nhw y byddant yn ystyried gwneud y gwaith.
Does dim rhaid i’r cyngor wneud y gwaith o gwbl gan nad yw’r heol wedi ei mabwysiadu. Syndod pleserus felly, oedd derbyn galwad gan y cyngor yn addo edrych ar y broblem. Mae’r feddygfa wedi addo cyfrannu at y gwaith, sy’n ei gwneud yn fwy tebygol o ddigwydd. #cyffrous
Awyr Lân i Gymru
Mae’n bryd cael Deddf Awyr Lân i Gymru
Mae Plaid Cymru wedi galw am fesurau newydd i wella ansawdd aer yng Nghymru gan gynnwys dirwyn i ben werthu cerbydau disel a phetrol yn unig erbyn 2030.
Cyn datganiad gan Weinidog Amgylchedd Cymru ar ansawdd aer yn y Senedd, mae Simon Thomas o Blaid Cymru wedi dweud y byddai Llywodraeth Cymru Plaid Cymru yn y dyfodol yn cyflwyno Deddf Awyr Lân i Gymru er mwyn gwella’r aer yr ydym yn anadlu.
Plaid Cymru yn beirniadu Llywodraeth Llafur am dorri grant gwisg ysgol
Defnyddiodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood gwestiynau i’r Prif Weinidiog i feirniadu’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru i dorri’r grant gwisg ysgol – penderfyniad fydd yn effeithio miloedd o deuluoedd.
Ward Plant Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Arweinydd Plaid Cymru a AC y Rhondda Leanne Wood yn cefnogi galwadau i ailfeddwl am gau ward plant Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
"Achub fy bws!"
Mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi bod yn ymladd i gadw llwybrau cludiant ysgol allweddol rhag cael eu cau gan gyngor Llafur Rhondda Cynon Taf.
Catalonia a Brexit
Clywodd cyfarfod o aelodau Pontypridd o Blaid Cymru gan Jill Evans ASE a Dafydd Wigley am y datblygiadau diweddaraf yn Catalonia ac am Brexit.
Newyddion da - Heol St John
RCT yn mynd i ail-osod gwyned hewl St John
[llun gan Google]