Brian Arnold
Gyda chalon drom, rydym yn drist i rannu y bu farw'r cyn-gynghorydd Plaid Cymru Brian Arnold ar yr 28ain o Ionawr 2023. Cynhaliwyd ei angladd ar y 6ed o Fawrth yn Amlosgfa Glyntaf ac yna te angladd yng Nghapel Seion, Ynysybwl.
Isod gallwch ddarllen teyrnged Heledd Fychan AS i Brian, draddodwyd yn y gwasanaeth.
Tony Burnell
Dywedodd yr Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan:
Gyda thristwch a sioc y clywsom am farwolaeth y Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros Ynysybwl, Tony Burnell.
Keith Davies
Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Keith Davies fu’n un o Gymry pybyr yr ardal am ddegau o flynyddoedd. Treuliodd ei ddyddiau cynnar yn Solfach ac Abergwaun cyn astudio yng Ngholeg y Drindod. Yno y cwrddodd â Margaret a ddaeth yn wraig annwyl iawn iddo. Ar ôl cyfnod yn y Ddraenen Wen ymgartrefodd yn Nhonteg a chael swydd yn Ysgol Bryn Celynnog. Ganed tri o blant iddynt sef Elin, Rhys ac Owain.
Clive Henley
Clive Henley 1936 - 2021
Brodor o’r Graig, Pontypridd oedd Clive. Dechreuodd ei yrfa fel prentis peiriannydd cyn gweithio blynyddoedd lawer yng ngwaith cadwyni enwog Brown Lenox, Pontypridd.