Mewn darlith allweddol yng Nghaerdydd heddiw, bydd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gosod allan agenda radical er mwyn sicrhau y bydd ‘penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru’ trwy raglen o ddemocrateiddio a grymuso.
Wrth gyhoeddi pamffled eang ei chwmpas gyda syniadau yn amrywio o addysg i fenter i ddiwygio democrataidd, bydd Leanne Wood yn dweud y gall rhoi mwy o lais i bobl dros y materion sy’n effeithio arnynt hwy a’u cymunedau ail-gysylltu unigolion â gwleidyddiaeth a herio’r anobaith sydd wedi bod fwyaf amlwg yng ngoleuni degawd o doriadau a’r bleidlais i adael yr UE.
Bydd arweinydd Plaid Cymru yn honni fod y Torïaid a Llafur yn rhoi dewis ffug rhwng gwleidyddiaeth o’r brig-i’r-bôn, cynyddol adweithiol aden-dde, ac agenda Llundain-ganolog Llafur gyda’u gwrthodiad styfnig i ildio pŵer o San Steffan neu Gaerdydd.
Yn y dyddiau wedi’r ddarlith, bydd Leanne Wood yn cychwyn ar daith o gwmpas Cymru gan gynnal cyfarfodydd cyhoeddus i drafod y syniadau sydd yn y pamffled ac ymwneud â phobl ar lawr gwlad.
Mae disgwyl i Leanne Wood ddweud:
“Rwyf eisiau i bobl ledled y wlad hon i ystyried sut y gallwn godi ein cenedl trwy ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros ein materion ein hunain a’n bywydau ein hunain, a sut y gallwn gychwyn dadl yng Nghymru am roi terfyn ar ein dibyniaeth ar eraill.
“Yn y ddogfen, rwyf wedi dadansoddi’r heriau sy’n wynebu ein cenedl: heriau o’r tu mewn i’r DG, heriau yn dilyn pleidlais Brexit, yn sicr y perygl mae Brexit Torïaidd eithafol yn olygu i swyddi a gwasanaethau Cymru, yn ogystal â’r heriau a wynebwn o ddatblygiadau byd-eang.
“Dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Ystyr ymreolaeth yw mai niddylai ddewis y pwerau yr ydym am eu rhannu gyda gwledydd eraill neu gydag Ewrop.
Ac eto ni fydd dwysau neo-ryddfrydiaeth, nac atgyfodi sosialaeth wladwriaethol Brydeinig roi’r atebion sydd eu hangen i ddatrys ein heriau economaidd a thrawsnewid Cymru.
“Mae’r ddwy weledigaeth a gynigir gan ddwy blaid fwyaf San Steffan yn gwthio ein hanghenion penodol ni fel cenedl i’r ymylon.
“Mae angen i ni fynd allan a dangos i bobl sut mai gwendid creiddiol sosialaeth ganoli nawddogol Llafur yw ei ddiffyg democrataidd. Ni fydd yn galluogi pobl i fod â pherchenogaeth dros eu hadnoddau eu hunain na’u rhedeg yn ddemocrataidd. Ni fydd yn grymuso pobl am nad yw’n ymddiried mewn pobl.
“Dylem fod yn ystyried lleoli sefydliadau newydd y tu allan i’r lle maent wedi eu canoli eisoes, fel y cynigiodd Plaid Cymru ar gyfer yr awdurdod trafnidiaeth newydd, amgueddfa pêl-droed, banc datblygu cenedlaethol, a chyrff eraill.
“Mae’n golygu sicrhau y gall y rhannau hynny o Gaerdydd yn ogystal â’n cyn-gymunedau diwydiannol sydd ymysg yr ardaloedd tlotaf yn y wlad, elwa o agwedd ranbarthol strategol at ddatblygu economaidd.
“Mae hyn yn fater o lefelu i fyny, a thrin anghydraddoldeb daearyddol fel problem i’w thrin yn yr un modd â mathau eraill o anghydraddoldeb.
“I’m plaid, mae’n golygu y buasem yn deddfu i sicrhau bod camau cyfreithiol ar gael i rannu buddsoddiad cyhoeddus yn deg ar draws y genedl, heb adael yr un gymuned ar ôl.
“Rwyf hefyd eisiau gweld isafswm o gyfres o hawliau cymdeithasol i bawb, megis dysgu gydol oes, cartref parchus, safon uchel o ofal iechyd ac amgylchedd glân.
“Ymysg egwyddorion eraill sydd yma mae defnyddio arian cyhoeddus er lles y cyhoedd; gwneud y mwyaf o gyfranogiad pobl mewn democratiaeth; cydweithredu fel unigolion yn hytrach na chystadlu â’i gilydd; a dysgu o’n hanes i edrych ymlaen mewn gobaith, yn hytrach nac edrych yn ôl yn hiraethus.”