Buddugoliaeth parcio
Yn dilyn trafodaethau llwyddiannus ar gyllideb Cymru, sicrhaodd Plaid Cymru y bydd parcio mewn rhai meysydd parcio yn RhCT nawr tipyn yn rhatach.
Newyddion da i fusnesau bach lleol sydd wedi dioddef gymaint oherwydd y gost o barcio.
Wrth gwrs, mae parcio wedi bod yn destun trafod yma yn Nhonyrefail ers blynyddoedd, a’r busnesau bach wedi bod yn galw am unrhyw fath o ddarpariaeth parcio!
Mae addewidion wedi eu torri dro ar ôl tro.
Byddaf yn gweithio gyda busnesau a grwpiau eraill Tonyrefail am well darpariaeth parcio.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?