Y gwyn fwyaf gan bobl yn ystod yr etholiad lleol oedd y ffaith ei bod hi mor anodd cysylltu â’r feddygfa. Dw i’n falch o ddweud bod y feddygfa ar fin gosod system ffôn newydd, fydd yn gwneud ffonio’r feddygfa’n haws o lawer.
Maent hefyd yn gweithio i ddechrau system bwcio dros y we. Wedi trafodaeth gyda’r feddygfa, mae hi wedi dod yn amlwg mai diffyg meddygon yw’r broblem fwyaf yna. Mae angen i Fwrdd Iechyd Cwm Taf weithredu ar frys, gan fod y broblem yma yn un ar gyfer yr ardal gyfan.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?