Er gwaethaf y llifogydd a'r argyfwng coronafeirws, mae ysbryd cymunedol Pontypridd yn gryfach nag erioed yn ôl cynghorwyr Plaid Cymru.
Mae'r tri wedi bod yn brysur yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i gefnogi'r rhai sy'n cysgodi neu'n hunanynysu yn eu wardiau, yn ogystal â chynnig cyngor a chymorth i drigolion a busnesau.
Mae'r Cyng EleriGriffiths a'r Cyng Heledd Fychan hefyd wedi bod yn cefnogi'r trigolion a'r busnesau yn eu wardiau a effeithiwyd arnynt yn ddiweddar gan y llifogydd, gan sicrhau eu bod yn derbyn yr holl gymorth ariannol ac ymarferol sydd ar gael iddynt.
Hoffent anfon eu dymuniadau da at y rhai o'r ardal sydd yn yr ysbyty yn ymladd y firws ar hyn o bryd a diolch i'r holl weithwyr sy'n parhau i weithio bob dydd i gefnogi ein cymuned.
Dywedodd y cynghorydd ar gyfer tref Pontypridd, Heledd Fychan:
"Mae'r coronafeirws wedi bod yn ergyd greulon i drigolion a busnesau Pontypridd, gan ddod mor fuan ar ôl y llifogydd dinistriol.
"Mae'n hollbwysig nad yw dioddefwyr llifogydd yn cael eu hanghofio yn hyn i gyd, a bod yr addewidion o gefnogaeth a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn cael eu hanrhydeddu.
"Fodd bynnag, er gwaethaf yr anawsterau, mae'r ysbryd cymunedol a'r rhwydweithiau cefnogi yn gryfach nag erioed, ac mae mwy o werthfawrogiad o fusnesau ein tref wrth iddynt addasu a chynnig gwasanaethau newydd.
"Rwy'n gobeithio y bydd y rhai sydd wedi ail-ddarganfod ein busnesau lleol yn parhau i'w cefnogi, i ddiogelu dyfodol ein tref a'r busnesau sydd wedi bod yn hanfodol i ni ar hyn o bryd."
Dywedodd Eleri Griffiths, cynghorydd ward y Rhondda:
"Mae trigolion ward Rhondda wedi bod yn brysur yn cefnogi eu cymdogion yn yr ardal, drwy siopa ar eu rhan a chasglu presgripsiynau. Fel un o'r cydlynwyr gwirfoddolwyr, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith hwn.
"Rwyf hefyd wedi bod yn ymateb i nifer o ymholiadau gan fusnesau lleol ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth iddynt am y gwasanaethau sydd ar gael gan Gyngor RhCT yn ogystal â sicrhau bod cefnogaeth i drigolion Trehafod yn dilyn y llifogydd yn parhau."
Dywedodd y Cynghorydd Danny Grehan, sy'n gynghorydd Dwyrain Tonyrefail:
"Erbyn hyn mae dros fil o drigolion Tonyrefail wedi cofrestru ar dudalen Facebook a sefydlwyd yn ddiweddar i gefnogi'r rhai sy'n hunanynysu neu'n cysgodi yn ystod Covid-19. Yr ydym i gyd yn cefnogi ein gilydd.
"Mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi cysylltu â mi yn gofyn os gallwn helpu teuluoedd bregus, ac mae'r gymuned wedi ymateb. Rwy'n ceisio cadw cefnogaeth mor agos â phosibl i'r bobl mewn angen.
"Un bonws arall sydd wedi dod o hyn yw'r defnydd o'r siopau bach lleol; Mae'r siop ffrwythau a'r cigydd yn Nhonyrefail wedi bod yn brysurach nag erioed. Gadewch i ni obeithio y bydd llawer o bobl yn parhau i'w defnyddio wedi hyn oll. "