Ail-ddatblygiadau ym Mhontypridd

heledd_fychan_head_and_shoulders.jpg

Mewn cyfarfod diweddar o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ceisiodd y Cynghorydd Plaid Cymru ar gyfer Tref Pontypridd, Heledd Fychan, gael sicrwydd ynghylch y nifer o swyddi newydd fydd yn cael eu creu drwy ddatblygiadau amrywiol ym Mhontypridd.

Mewn cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Fenter, Datblygu a Thai, gofynnodd am sicrwydd y byddai datblygiadau fel ailddatblygiad canolfan siopa Dyffryn Taf a'r YMCA yn rhan o gynllun fydda'i yn cyd-gysylltu y gwaith o adfywio Pontypridd. Fe wnaeth hi hefyd ofyn am eglurdeb ynghylch y nifer o swyddi gwirioneddol newydd fydd yn cael eu creu, a mynegodd bryder y byddai llawer yn symud o rannau eraill o'r dref, gan arwain at fwy o swyddfeydd gwag yn ogystal a siopau o gwmpas Pontypridd.


Wrth ymateb i'w chwestiwn, cyfaddefodd y Cynghorydd Bevan bod nifer y swyddi newydd yn aneglur ar y funud, gan ddweud: "Does gen i ddim pelen grisial".


Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, mynegodd y Cynghorydd Fychan ei phryder am y datganiad hwn gan i ni glywed yn y gorffennol bod y cynllun am ddod a channoed o swyddi i Bontypridd: "Ar ôl blynyddoedd o addewidion gwag, mae trigolion yn falch o weld y gwaith o ail-ddatblygu'r dref yn mynd rhagddo.


"Fodd bynnag, mae'r gymuned leol hefyd yn parhau i fod yn wyliadwrus ac rwyf yn ceisio cael sicrwydd ar eu rhan y bydd y cannoedd o swyddi newydd a gafodd eu gaddo yn cael eu gwireddu. Mae pryder gwirioneddol y bydd y gweithwyr ar y safle newydd naill ai eisoes yn gweithio yn y dref, gan felly symud i'r adeilad newydd gan adael swyddfeydd gwag mewn mannau eraill o'r dref, neu eu bod eisoes yn gweithio yn rhywle cyfagos gan felly adleoli i'r dref yn hytrach na bod swyddi newydd ar gael i drigolion lleol.


"Gwn nad oes gan y Cynghorydd Bevan Belen Grisial, ond rwyf yn ei annog i sicrhau bod yr holl ddatblygiadau yn rhan o strategaeth ehangach fel bod y cannoedd o swyddi newydd a addawyd yn cael eu cyflawni. Gall Pontypridd unwaith eto fod yn Borth i'r Cymoedd, ond dim ond os gwnaiff y Cyngor gyd-gysylltu yr holl ddatblygiadau yn y dref. "

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.