Ail Datblygu Pontypridd - Cynllunio

Taff_Vale_1_(1).jpg Ar ddydd Iau 9fed o Fedi, daeth datblygiad arfaethedig yr hen ganolfan siopa Cwm Taf ym Mhontypridd gerbron Pwyllgor Cynllunio RhCT.

Fe gafodd ganiatâd cynllunio ac er bod Plaid Cymru yn cefnogi'r buddsoddiad ym Mhontypridd, siaradodd Heledd Fychan, Cynghorydd Plaid Cymru dros y Dref, yn y cyfarfod i fynegi pryderon trigolion, fel eu bod wedi eu cofnodi.

Dyma'r hyn a ddywedodd Heledd:

• Nid yw llawer yn credu y bydd y cynllun yn cael ei wireddu, felly dyna pam mai dim ond fi oedd yno i siarad yn y cyfarfod. Mae amheuon trigolion yn golygu nad yw pobl wedi cymryd sylw trylwyr o’r cynlluniau.

Taff_Vale_1_(2).jpg

 • Dylunio: Pryder nad yw'n ddigon sensitif i'r amgylchedd hanesyddol, yn enwedig yr hen bont ac amgueddfa. Nid yw’r adeiladau sydd i fod yn swyddfeydd yn ddigon eiconig ac mae perygl y byddant yn edrych yn hen ffasiwn mewn ugain mlynedd.

 

• Parcio: dim ond 70 o leoedd parcio ychwanegol er y dywedir wrthym y bydd dros fil o swyddi. Mae parcio eisoes yn broblem ym Mhontypridd ac yn cadw pobl allan o'r dref. Mae'n bwysig nad yw hyn yn cael ei anwybyddu. Hefyd - ni all hyn arwain at ddatblygu maes parcio ym mharc Ynysangharad pan fydd y datblygiad yn agor, a bod parcio yn broblem oni bai bod datrysiadau amgen yn cael eu canfod rwan. Mae trigolion yn iawn i fod yn bryderus ynghylch cyfeiriadau yn y cynlluniau ar gyfer pont newydd i gerddwyr sy'n cysylltu'r datblygiad gyda’r parc. Rydym angen ymrwymiad llwyr na fydd hyn yn cysylltu â maes parcio.


• Mae angen i’r ail-ddatblygiad fod yn rhan o weledigaeth ehangach ar gyfer Pontypridd a cysylltu â datblygiadau eraill megis yr YMCA. Beth fydd yn digwydd imhen adeilad y llyfrgell? Pam mae campfa fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer y datblygiad yma a'r YMCA? Mae llawer o eiddo a swyddfeydd gwag ym Mhontypridd - sut y bydd hyn yn helpu?


Taff_Vale_1_(3).jpg • Heb os mae hyn yn well na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, ond nid yw'n golygu bod yn rhaid inni ei dderbyn heb ofyn cwestiynau gan bod rhaid sicrhau mai dyma'r cynllun gorau ar gyfer Pontypridd. Mae gennym gyfle i wneud rhywbeth gwirioneddol gyffrous ac mae angen cymryd golwg holsitig fel y gellir adfywio’r holl dref.

 Dyma'r pwyntiau y byddaf yn parhau i'w codi wrth i'r datblygiad fynd rhagddo felly os oes gennych unrhyw sylwadau, rhowch wybod i mi er mwyn i mi allu eu bwydo nol at y Cyngor. 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.