Cylchllythyr yr Hydref Ward Tref Pontypridd

 

Wel, am Haf! Nid yn unig roedd y tywydd yn rhyfeddol, ond roedd Pontypridd yn llawn bwrlwm gyda digwyddiadau, fel Parti Ponty a Cegaid o Fwyd Cymru.

Fel bob amser, os oes angen fy help arnoch gyda rhywbeth, dewch i gysylltiad.
Byddwn wrth fy modd yn clywed gennych.

 

Diweddariad – Arolwg Tyllau yn y ffordd

Diolch i bawb a gwblhaodd yr arolwg tyllau yn y ffordd, a dweud wrthyf am eu lleoliad yn ogystal a darnau o ffyrdd oedd angen gwyneb newydd. Rwy'n falch iawn o weld gwaith wedi ei gwblhau ar Daren Ddu Road ar ôl ymgyrchu am flwyddyn, ynghyd â nifer o strydoedd yn Graigwen. Os ydych chi'n gwybod am unrhyw dyllau neu ffyrdd eraill y mae angen sylw arnynt, rhowch wybod i mi os gwelwch yn dda.

 

Coed a Gwrychoedd
Yn dilyn y tywydd braf, mae nifer o goed a gwrychoedd wedi tyfu ac mae llawer o drigolion wedi cysylltu â mi â phryderon nad yw cymdogion yn eu torri'n ddigonol, gan felly rwystro eu golygfeydd neu achosi problemau yn eu gerddi. Er bod rhai rheoliadau y gall swyddogion y Cyngor eu gweithredu i gefnogi trigolion, maent bob amser yn annog unrhyw un sydd â phryderon i siarad â'u cymdogion a cheisio dod i gytundeb. Efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bai pawb ohonom â gardd yn cymryd yr amser i ystyried pa effaith mae ein coed a'n gwrychoedd yn ei gael ar eraill, a chymryd y camau angenrheidiol fel bod modd osgoi proses fwy ffurfiol.

 

Canol y Dref

Mae gwaith yn parhau i symud rhagddo ar safle’r hen ganolfan siopa Dyffryn Taf. Rydym wedi disgwyl yn hir i hyn gael ei wireddu, ond gobeithio bydd cwblhau’r prosiect yn sbardun i drawsnewid dyfodol y Dref.

 

Bloc gwaith coed hen Ysgol Coedylan
Yn gynnar ym mis Awst, cytunodd pwyllgor cynllunio Cyngor RhCT i ddymchwel yr adeilad hanesyddol hwn a chaniatau adeilad newydd. Gwn nad dyma'r canlyniad roedd nifer o drigolion ei eisiau, gan eu bod yn dymuno gweld yr adeilad wedi ei adnewyddu a'i achub ar gyfer y dyfodol, ac mae'n ddrwg gen i fod ein hymgyrch wedi methu. Hoffwn dalu teyrnged arbennig i un o’n trigolion lleol, Louise Jones, a gydlynodd yr ymgyrch gan gynnwys y ddeiseb. Nawr bod penderfyniad wedi'i wneud fodd bynnag, edrychaf ymlaen at groesawu'r trigolion newydd a fydd yn symud i'r datblygiad yn y dyfodol agos.

 

Ysbwriel
Mae llawer o drigolion wedi cysylltu dros yr wythnosau diwethaf i roi gwybod i mi am broblemau sbwriel mewn gwahanol rannau o'r ward. Ar ôl cais gen i, mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn mynd o gwmpas y ward yn rheolaidd, i wagio biniau, codi sbwriel a hefyd gwirio nad yw biniau'n cael eu gadael ar ochr y ffordd ar ddiwrnodau na ddylent fod. Os oes unrhyw broblemau yn parhau yn eich stryd, cysylltwch.

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.