Mae llawer wedi digwydd ym Mhontypridd dros y misoedd diwethaf, ac rwy'n gobeithio y bydd y cylchlythyr hwn yn fudd i chi. Yn bennaf mae'n newyddion da, cadarnhaol ond yn anffodus mae peth negyddol hefyd. Fel bob amser os oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i’ch helpu, cysylltwch â mi. Byddwn wrth fy modd clywed gennych.
Cofion,
Cyng Heledd Fychan
Brownies - Cefais wahoddiad i siarad yng nghyfarfod y Brownies, fel rhan o'u bathodyn her i nodi canmlwyddiant pleidlais i fenywod. Yr oedd i fod yn hanner awr am fy rôl fel cynghorydd a menywod mewn gwleidyddiaeth, ond trodd i fod yn awr yn trafod materion a oedd o ddiddordeb iddynt megis ymgyrchoedd posibl ar gyfer Pontypridd a'r ardal ehangach. Eu prif bryder oedd yr amgylchedd, ac roedd yna lawer o syniadau gwych rwy’n gobeithio y gellir gweithredu. Roedd cymaint o ddwylo i fyny, ac roeddynt yn siarad ac yn mynegi eu barn yn wych. Yn wir, roeddent yn siarad llawer mwy na fi! Rhoddodd hyn lawer o obaith i mi i'r dyfodol!
Clwb dros 50 oed yn y Miwni
Rwy'n falch o ddweud, ar ôl ail-sefydlu'r Clwb, ei fod yn mynd o nerth i nerth. Rwyf wedi llwyddo i sicrhau cyllid pellach sy'n rhoi sylfaen ariannol gadarn ar gyfer y dyfodol.
Trosedd
Bu cryn dipyn o ladrata ym Mhontypridd ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r heddlu, grwpiau Gwarchod Cymdogaeth Graigwen Uchaf ac Isaf, a’r cyfarfodydd PACT i ddatrys y broblem. Os gwelwch unrhyw beth amheus, ffoniwch yr heddlu.
Cynhyrchion misglwyf
Cynigiodd Elyn Stephens, cynghorydd Plaid Cymru dros Ystrad, y dylai cynhyrchion misglwyf fod ar gael mewn ysgolion am ddim. Roeddwn ar y pwyllgor a ymchwiliodd i hyn ac fe 'm syfrdanwyd o glywed tystiolaeth gan gannoedd o ferched ysgol nad oeddent yn gallu cael mynediad at y cynhyrchion angenrheidiol. Fel y dywedwyd yng nghyfarfod y cyngor, nid ydym yn disgwyl i blant ysgol ddod â'u papur toiled eu hunain felly beth yw'r gwahaniaeth? Rwyf yn falch o weld bod y Cynulliad bellach yn cefnogi treialu’r polisi hwn gyda’r bwriad o’r droi’n bolisi cenedlaethol.
Carffosiaeth
Diolch yn fawr i'r bobl hynny a ddywedodd wrthyf fod y bibell garthffosiaeth wedi byrstio yn ardal Lan Park Road ac yn rhedeg at yr Orsaf Fysiau. Cysylltais â Dwr Cymru ac roedd ganddynt beirianwyr ar y safle ar unwaith i ddatrys y broblem. Gwn fod trigolion eraill hefyd wedi cysylltu â Dŵr Cymru, felly diolch arbennig iddynt.
Tywydd gwael
Rhaid crybwyll Graigwen Stores ar y bryn, oedd wedi llwyddo i gadw digon o stoc i bob cwsmer yn ystod yr eira diweddar tra roedd siopau eraill wedi rhedeg allan o fara a llaeth. Ni allwch guro eich siop leol!