Yn dilyn yr ergydion y mae canol ein tref wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf, megis cau Marks and Spencer a HSBC a dymchwel y Neuadd Bingo, heb sôn am Covid a llifogydd 2020, mae’n wych gweld cymaint o siopau bach, lleol yn agor yn y dref. Mae yna egni newydd a bywiog.
Yr hyn sydd ar ôl i'w benderfynu yw beth i'w wneud â safleoedd yr hen Marks and Spencer a’r Neuadd Bingo. Mae RhCT wedi prynu'r tir ac mae ganddyn nhw gynlluniau i adeiladu gwesty ar hen safle y Neuadd Bingo a dymchwel adeilad Marks and Spencer.
Bydd y flwyddyn nesaf yn penderfynu ar siâp canol ein tref ar gyfer y degawd nesaf a hoffem weld proses ymgynghori lawn, gyda holl drigolion y dref a’r cyffiniau yn cael cyfle i ddweud beth hoffent ei weld yn digwydd. Ai gwesty yw'r opsiwn gorau? Beth am fan gwyrdd agored, yn croesawu pobl i ganol y dref fel porth? A ddylid datblygu'r pen hwnnw o'r dref ar gyfer mwy o fwytai? Mae Alfreds a Lolfa Gatto wedi profi bod marchnad ar gyfer bar/caffis o safon. Dim ond ychydig o syniadau yw’r rhain—yr hyn sy’n bwysig yw bod gennym ni, y bobl sy’n byw yn y dref a gerllaw, lais gwirioneddol ar ddyfodol canol ein tref.
I fod yn glir, nid yw Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r cynlluniau presennol dim ond er mwyn gwneud. Ond, rydym yn credu’n gryf iawn mai pobl ardal Pontypridd ddylai benderfynu dyfodol Pontypridd nid Cabinet RhCT.