Agoriad Swyddfa Ranbarthol ym Mhontypridd

Dydd Sadwrn 2 Hydref, agorodd Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru Blaid Cymru ei swyddfa ranbarthol yng nghanol tref Pontypridd.

Yn gwmpeini iddi oedd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, ac actifyddion lleol o bob rhan o'r rhanbarth.

Wrth siarad yn yr agoriad, dywedodd Heledd: “Ers mis Mai, rwyf i a’r tîm wedi bod yn helpu etholwyr gyda llu o faterion amrywiol a gweithio gyda grwpiau cymunedol ledled y rhanbarth.

“Mae cael swyddfa ym Mhontypridd, yn agos at yr orsaf reilffordd, yn golygu y gallwn groesawu pobl yn bersonol a pharhau i gynnig cefnogaeth lle bo angen.

“Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd ledled y rhanbarth, ac apwyntiadau rhithwir a dros y ffôn. Cysylltwch â ni os gallwn helpu trwy [email protected] neu trwy ffonio 01443 853214.

Ychwanegodd Adam Price: “Rwyf wrth fy modd bod Heledd wedi agor ei swyddfa ranbarthol Plaid Cymru yng nghanol Pontypridd ac yng nghalon y gymuned. Mae Heledd a’i thîm wedi dechrau gweithio eisioes gan ganolbwyntio ar faterion cymunedol fel y llifogydd a’r ffaith nad oes gennym ni ymholiad annibynnol na chyfiawnder o hyd i’r rhai yr effeithiwyd arnynt.

“Llefydd fel Pontypridd yw lle byddwn yn adeiladu’r Gymru newydd - cymuned wrth gymuned - gan estyn allan a chydweithio i sicrhau dyfodol gwell i bawb.

“Os ydych yn yr ardal, rwy'n argymell yn gryf eich bod chi'n galw heibio i gael sgwrs gyda'r tîm sydd bob amser yno i wrando, helpu a chefnogi."

 

Bydd y swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Cyfeiriad y swyddfa yw 2 Stryd Fawr, Pontypridd.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.