Cynhaliwyd cyfarfod yn yr Otley Arms, Trefforest ddydd Mercher diwethaf (Medi 27ain) i drafod sut y gellid mynd ati i wella’r ffordd rydym yn defnyddio democratiaeth.
Cyflwynwyd deddf newydd eleni, sef Deddf Cymru 2017. Mae’r ddeddf hon yn golygu y gallwn ddewis y modd rydym yn cynnal etholiadau yng Nghymru. Mae’n cynnwys etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, cynghorau sir, cymuned a chynghorau tref.
Dywedodd Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygiad Etholiadol Cymru;
“mae gyda ni ddigonedd o gyfleoedd yng Nghymru ar hyn o bryd i drafod sut i fynd ati i greu democratiaeth unigryw.
Mae’r noson hon wedi bod yn fuddiol i drafod y mater gyda phreswylwyr lleol. Mae Cymdeithas Diwygiad Etholiadol Cymru wedi bod yn gweithio ar brosiect o’r enw “Lleisiau Coll” sy’n ymgynghori â phobl nad sy’n pleidleisio neu’n pleidleisio o bryd i’w gilydd.
Mae yna lawer o ddiddordeb ym mysg y cyhoedd yn y materion sy’n effeithio arnynt yn lleol, ond mae gwleidyddiaeth yno’i hun yn fater gwahanol.
Mae hi’n dda bod yn etholaeth Pontypridd I gael trafodaeth gyda phobl leol ac i edrych yn fanwl sut y gallwn ymdrin â democratiaeth yn wahanol”.
Dywedodd Llefarydd Cabinet yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, Siân Gwenllïan, A.C. Arfon:
“Mae’n bwysig inni fynd y tu fas i Gaerdydd - mae peryg inni fod yn rhy ynysig ym Mae Caerdydd.
Mae diwygio’r system etholiadol yn hanfodol i ddyfodol democratiaeth. Gellir gwneud cymaint i ail gynnau diddordeb pobl yn y modd rydym yn pleidleisio mewn etholiadau; faint o bobl sy’n ymddiddori a hefyd oedran pleidleisio’r tro cyntaf.
Mae wedi bod yn ddefnyddiol i gael ymateb pobl yr ardal. Mae’r system Bleidlais Drosglwyddadwy Unigol yn ffordd o wneud i bob pleidlais gyfrif. Mae pobl yn teimlo nad yw eu pleidlais y ‘cyntaf i’r felin’ yn cyfrif.
Mae unrhyw ffordd i geisio creu cyfundrefnau tecach yn werth ei ystyried gan ddiystyru’r pleidiau dominyddol fyddai’n gofidio i weld newid yn eu hardaloedd a gweld pleidiau eraill yn ymddangos. Nid yw hyn yn rheswm am wneud dim ynghylch y mater oherwydd mai testun tegwch yw hwn a modd o adfywio’n democratiaeth”.
Ychwanegodd Cynghorydd Rhondda Cynon Taf Danny Grehan, oedd yn cadeirio’r cyfarfod:
“Pan dw i wedi bod yn curo drysau am flynyddoedd yn Nhonyrefail mae pobl yn dweud nad ydynt yn teimlo fod eu pleidlais yn cyfrif fawr ddim; a hwn yw’r rheswm pam nad oes llawer yn pleidleisio.
Mae gyda ni wendid yn ein democratiaeth a’r unig ffordd i fynd i’r afael â’r diffyg yw diwygio’r gyfundrefn ddemocrataidd sydd gyda ni.
Mae addysg wleidyddol ynghylch system newydd yn hanfodol, a dw i’n siŵr y byddai pobl yn croesawu cyfundrefn a honno’n gwrando arnynt”.
Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar: sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru, sut mae pobl yn dod yn gymwys i bleidleisio, sut y gwnânt ymarfer eu hawl i bleidleisio a sut mae etholiadau’n cael eu trefnu.
Mae’r ymgynghoriad Cymreig yn dod i ben ar Hydref 10fed, 2017 a gallwch ysgrifennu at:
Democratiaeth Llywodraeth Leol,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu ebostio - [email protected]