Richard Martin

Richard_Martin.jpgRichard Martin

Rydw i wedi byw yn etholaeth Pontypridd am y rhan fwyaf o'm bywyd ac yn nhref Pontypridd am ychydig dros ddegawd. Dyma ble mae fy nheulu a finnau wedi bwrw gwreiddiau.

Yr wyf yn sefyll ar gyfer yr etholiad yn 2017 oherwydd fy mod yn credu bod Graig a Phontypridd yn haeddu gwell gan ein cyngor. Mae darparu gwasanaethau hanfodol yn wyneb y setliad ariannol llym gan Lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd a'r Torïaid yn Llundain yn fwy anodd nag erioed ac mae’n ymddangos mai dim ond ym mlwyddyn etholiad y cawn weld unrhyw fuddsoddiadau a chyhoeddiadau.

Credaf y dylai cynghorwyr fod yn gweithio yn ein cymunedau bob blwyddyn –yn siarad ag etholwyr, yn gwrando arnynt ac yn ymateb iddynt. Cryfder ein cymunedau sy’n ein helpu ni drwy unrhyw gyfnod ariannol anodd ac mae gan gynghorwyr rôl bwysig i'w chwarae yn hynny o beth.

Mae’n teimlo weithiau mai dim ond pan fydd yn rhaid iddynt y mae ein cyngor presennol yn siarad ag etholwyr – ac nid yw hynny'n ddigon da.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.