Cynnyrch misglwyf mewn ysgolion

Plaid Cymru yn sicrhau ymrwymiad i ymestyn argaeledd cynnyrch misglwyf mewn ysgolion.

tampons.JPG

Yn y cyfarfod ar ddydd Mercher 19 o Orffennaf o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sicrhaodd Cynghorwyr Plaid Cymru ymrwymiad gan Arweinydd y Cyngor am adolygiad brys er mwyn sicrhau bod pob disgybl benywaidd yn gallu cael cynnyrch misglwyf am ddim mewn ysgolion ar draws Rhondda Cynon Taf.

gan bob disgybl benywaidd

Derbyniodd y cynnig, a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Elyn Stephens sy'n cynrychioli Ystrad, lawer iawn o sylw yn y wasg cyn y cyfarfod, gyda 85% yn pleidleisio o blaid cynnyrch misglwyf am ddim mewn ysgolion mewn pleidlais ar-lein a gynhaliwyd gan Wales Online.

Wrth siarad yn ystod y ddadl, siaradodd y Cynghorydd Stephens am bwysigrwydd torri'r tabŵ ynghylch misglwyf: "Mae misglwyf yn ran naturiol o fywyd i hanner y boblogaeth, ac mae mynediad at gynnrych misglwyf am ddim yn hanfodol er mwyn hyrwyddo urddas, cydraddoldeb ac iechyd".

"Ni all rhai merched ifanc fforddio cynnyrch misglwyf, neu maen't yn rhy swil i ofyn amdanynt ac rydym yn gwybod nad yw rhai yn mynychu'r ysgol am ychydig ddyddiau bob mis oherwydd hyn. Mae angen newid, gan y gall hyn effeithio ar bresenoldeb a pherfformiad disgyblion benywaidd gan arwain at rai yn colli cyfanswm o 350 o ddiwrnodau yn ystod eu bywyd ysgol oherwydd gweithred gorfforol hollol naturiol ".

Mewn ymateb i'r cynnig, cyflwynodd Cyghorwyr Llafur welliant a oedd yn gofyn am adroddiad ar y mater gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc cyn i opsiynau pellach gael eu hystyried. Yn dilyn pryderon gael eu codi gan Gynghorwyr Plaid Cymru y byddai hyn yn gwthio'r mater o'r neilltu, rhoddwyd sicrwydd gan yr Arweinydd ac aelodau eraill o'r Cabinet y byddai hyn yn dychwelyd i'r Cyngor ym mis Hydref ar gyfer ystyriaeth pellach.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Dirprwy Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar RhCT Geraint Davies, a eiliodd y cynnig: "Rydym yn siomedig bod Llafur wedi penderfynu gohirio penderfyniad ar y mater pwysig hwn, ond yn falch bod cytundeb mewn egwyddor wedi ei sicrhau. "

"Byddwn nawr yn cyfrannu at waith y pwyllgor craffu, a chadw'r pwysau ar y Blaid Lafur i sicrhau bod newidiadau yn digwydd fel nad yw cynnyrch misglwyf ddim dim ond ar gael, ond ei bod mor hawdd i bob disbygl benywaidd gael gafael arnynt ac ydi iddynt gael mynediad at bapur ty bach yn yr ysgol."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.