Heledd yn gofyn i ail-agor Canolfan Iâ Cymru

Mae Heledd Fychan AS wedi gofyn i'r llywodraeth i edrych eto ar y penderfyniad i gadw Canolfan Iâ Cymru ar gau. 

 

Dywedodd Heledd wrth annerch Senedd Cymru 

"Canolfan Iâ Cymru yw’r unig ganolfan iâ sy’n parhau ar gau ledled y Deyrnas Unedig ac wedi bod ar gau am 15 mis. Y gobaith oedd y byddai hyn wedi newid ar 21 Mehefin, ond penderfynwyd gohirio hyn ymhellach.

"Canolfan Iâ Cymru yw’r ganolfan iâ mwyaf modern yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddi system rheoli adeiladau fodern i reoli llif awyr iach a gwres i greu pa bynnag amodau sy'n cael eu hystyried yn ddiogel. Nid oes gan lawer o leoliadau dan do systemau o'r fath. Ar ben hynny, mae y ganolfan iâ gyda nenfwd a chyfaint aer llawer uwch na'r lleoliadau dan do sydd eisoes ar agor fel sinemâu, canolfannau bowlio ac ati.422

"A allaf ofyn bod ystyriaeth frys yn cael ei rhoi i’r mater hwn, gan ei fod yn cael effaith andwyol ar bawb sydd yn gysylltiedig â'r ganolfan? Mae’n ymddangos yn anghyson iawn bod ein sglefrwyr iâ ni yn medru teithio i Loegr i hyfforddi mewn canolfannau llawer llai modern, a methu â defnyddio’r un sydd yma yng Nghymru."

ia.PNG

Mwy: Canolfan Iâ Cymru 'ar ei gliniau' wrth aros ar gau - BBC Cymru Fyw

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.