Y Llywydd, Elin Jones AC oedd y siaradwr gwadd Plaid Cymru Pontypridd yn dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn Tafarn y Ship, Llanilltud Fardre.
Y gwestai arbennig yn ein cinio dathlu Gŵyl Dewi yn y Ship Inn, Llanilltud Faerdre, oedd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC. Ar nos Lun 26 Chwefror, daeth pawb ynghyd yn y bwyty poblogaidd i fwynhau pryd tri chwrs, oedd yn yn cynnwys prif gwrs cig oen neu opsiwn llysieuol.
Dywedodd AC Ceredigion Elin Jones
"Pleser oedd dathlu Gŵyl Ddewi ym Mhontypridd, a chael y cyfle i rannu cynlluniau cyffrous y Cynulliad ar ddyfodol democratiaeth yng Nghymru. Mae cynlluniau cyffrous ar droed i droi ein Cynulliad Cenedlaethol yn Senedd Gymreig ac i weddnewid y ffordd rydym yn gweithio. Mae ymgynghoriad ar agor nawr ar ein cynlluniau i gryfhau ein system democrataidd, sydd yn newyddion gwych i bobl Pontypridd – yn enwedig pobl ifanc 16 oed sydd, gobeithio, yn mynd i gael y cyfle i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad’’
Ceir mwy o fanylion ar yr ymgynghoriad trwy
Ychwanegodd cadeirydd y rhanbarth, Richard Martin
"Roedd yn bleser croesawu Elin Jones, Y Llywydd, i ddathlu Gŵyl Dewi yn etholaeth Pontypridd. Fel un o sylfaenwyr y Cynulliad, does neb gwell nag Elin i adrodd hanes esblygiad y Cynulliad o’r dyddiau cynnar, ansicr, gan edrych ymlaen at y dydd pan fydd gennym Senedd gydradd â seneddau eraill ym Mhrydain’’.
Wrth ddod i’n cymuned ni a rhannu hanesion y daith gyfansoddiadol yma, mae Elin wedi ysbrydoli gwleidyddion y dyfodol o Rhondda Cynon Taf.
Eleni bydd y Cynulliad yn dechrau creu’r Senedd Gymreig sydd wedi’i ffurffio yma yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru, ac mae digwyddiadau fel heno yn engraifft wych o ba mor agored ydym ni, ac mae angen cadw hwnna wrth symud ymlaen at y cam nesaf yn hanes ein democratiaeth Gymreig.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?