Plaid Cymru Pontypridd Wrth galon y gymuned

Plaid Cymru - Party of Wales
English
  • Hafan
    • Ynglŷn â
    • Hysbysiadau
    • Cynghorwyr
    • Aelodau'r Senedd
  • Newyddion
    • Ble ydw i'n pleidleisio?
    • Cofrestrwch i Bleidleisio
    • Pleidlais Bost
    • Cyfiawnder i Ddioddefwyr Llifogydd
    • RhCT Maniffesto 2022
    • Is-Etholiad Ynysybwl
    • Achubwch Cartref Gofal Garth Olwg
    • Archebu Poster neu Blacard
    • Gwirfoddoli
    • Pam ymuno â Phlaid Cymru?
    • Calendr
    • Sefyll Dros Eich Cymuned
  • Cyfrannwch
  • Addo Cefnogaeth
    • Mewngofnodi Mewngofnodi
    • Go to English site

    Sefyll Dros Eich Cymuned

    • Hafan >
    • Cymryd rhan >
    • Sefyll Dros Eich Cymuned

    Oes diddordeb gyda chi mewn dod yn Gynghorydd?


    Mae pobl yn rhoi llawer o resymau dros sefyll mewn etholiad, ond mae un thema amlwg iawn - yr awydd i wella eu cymuned leol.

    Weithiau mae pethau penodol yn sbarduno rywun i ddweud "gallaf wneud hynny" efallai rhywbeth lleol iawn, fel gwella ardal chwarae, neu rhywbeth sy'n effeithio ar ardal fwy fel gwrthwynebu cynlluniau'r Cyngor i gau addysg 6ed dosbarth ar draws ardal eang.

    Beth bynnag yw'r sbardun os ydych chi am newid RhCT (neu un o'r Cynghorau Cymunedol ar draws yr ardal) ac yn ystyried sefyll yn yr etholiad byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Dros y chwe mis nesaf, bydd Plaid Cymru yn dewis ei ymgeiswyr ar gyfer Etholiadau Cyngor Mai 2022.

    Os hoffech gael sgwrs anffurfiol i drafod sefyll, cysylltwch â ni a bydd un o'n Cynghorwyr presennol yn rhoi caniad i chi.

    Plaid Cymru Cllrs

    FAQ's

    Beth yw rôl Cynghorydd?

    Etholir cynghorwyr i gynrychioli eu cymuned leol wrth redeg eu cyngor lleol. Mae cynghorwyr yn helpu i benderfynu sut mae gwasanaethau lleol yn cael eu darparu, eu hariannu a'u blaenoriaethu. Mae cynghorwyr yn gweithio gyda gweithwyr y cyngor i sicrhau bod gwasanaethau'n berthnasol ac yn cael eu darparu'n effeithiol.

    Pa mor aml mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal?

    Mae hyn yn amrywio'n sylweddol yn ôl eich amgylchiadau unigol - cynhelir cyfarfodydd Cyngor Llawn unwaith y mis a bydd y mwyafrif o Gynghorwyr yn eistedd ar o leiaf un Pwyllgor, sy'n golygu o leiaf dau gyfarfod y mis.

    A allaf sefyll?

    Gall y mwyafrif o bobl sefyll etholiad yn yr ardal lle maen nhw'n byw neu'n gweithio, ond mae yna rai cyfyngiadau, er enghraifft os oes gennych chi swydd uwch mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, yna efallai na fyddwch chi'n gymwys i sefyll.

    Mae Plaid Cymru yn awyddus iawn i sicrhau bod gennym ymgeiswyr o bob sector o'r gymdeithas, felly os ydych chi'n gweithio neu peidio, wedi ymddeol, yn ifanc neu'n hen, beth bynnag eich rhyw neu gefndir ethnig, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

    A fydd fy nghyflogwr yn gadael imi gymryd amser i ffwrdd?

    Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn hapus iawn i'w staff sefyll dros y Cyngor, maen nhw'n gweld hyn fel ffordd iddyn nhw fod yn gyflogwyr da ac yn cefnogi'r gymuned leol.

    Gwybodaeth bellach

    Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar Wefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru trwy glicio yma.

    WLGA

    A wnewch chi wirfoddoli?


    Hoffwch hyn er mwyn annog eich ffrindiau i wirfoddoli.

    Rhannu Trydar

    Dangos 1 ymateb


    Mewngofnodi gyda

    Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter

    Neu mewngofnodwch gyda'ch cyfeiriad ebost

      neu Creu cyfrif


      Creu cyfrif

        neu Mewngofnodi gyda ebost
        Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
        • Geraint Day
          Geraint Day published this page in Cymryd rhan 2021-07-07 14:29:43 +0100

        Mae hyn yn dechrau gyda chi

        Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

        Mewngofnodi gyda Facebook
        Or
        Mewngofnodi gyda Twitter
        Neu cofrestrwch gydag ebost


        Ymgyrchoedd

        St Catherine's Car Park

        Achubwch Cartref Gofal Garth Olwg

        Is-Etholiad Ynysybwl

        Cymryd Rhan

        Ymuno Cyfrannu Gwirfoddoli Swyddi

        Pobl

        Arweinydd Aelodau'r Senedd Cynghorwyr Cyng Danny Grehan Cyng Dawn Wood

        Yn eich ardal

        Pontypridd Tonyrefail Cilfynydd Pentre Eglwys & Llanilltud Faerdref Pontyclun & Llantrisant

        Twitter

        Tweets by PlaidPontypridd
        Hawlfraint 2023 Plaid Cymru - Hyrwyddwyd gan Plaid Cymru - Preifatrwydd
        Crewyd gan Brand Response gyda NationBuilder