#Pleidlais16!
Mae'n wythnos #Pleidlais16! Ym mis Mai am y tro gynaf erioed mae pobl ifanc 16 ac 17 yn gallu pleidleisio! Cofiwch gofrestru!
Brwydr dros Gyfiawnder i Ddioddefwyr Llifogydd yn Parhau Flwyddyn yn Ddiweddarach
"Mae'r angen am Ymchwiliad Annibynnol yn parhau, ac mae'r frwydr yn parhau nes i ni sicrhau cyfiawnder i'r rhai yr effeithiwyd arnynt a buddsoddiad mewn mesurau atal llifogydd. Ni fydd ein cymunedau'n gallu gorffwys hyd nes y bydd hyn yn digwydd, ac rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl, a sefydlu Ymchwiliad Annibynnol fel mater o frys."
Darllenwch fwyCyng Heledd Fychan ar GTFM
Gwrandewch yn ôl ar DJ GTFM Terry yn dal i fyny gyda'r Cynghorydd Sir ar gyfer Ward Tref Pontypridd, Heledd Fychan yn rhoi diweddariad ar: -
- Ailagor y Bont Wen
Cynlluniau i adnewyddu'r Bont Wen
Datblygiad yr YMCA a chynnydd ar Ganolfan Gelf Muni
Llythyr i HSBC
Yn gynharach wythnos yma, ynghyd a LeanneRhondda ysgrifennais at HSBC i erfyn arnynt i ail-feddwl cau cangen Pontypridd a Tonysguboriau. Mae’n wasanaeth hanfodol i drigolion a busnesau.
Gweithredwch nawr - llofnodwch y ddeiseb yma.
Darllenwch fwyAchub HSBC ym Mhontypridd a Tonysguboriau
Mae ein Trefi yn dioddef ergyd ar ôl ergyd.
Mae Pontypridd wedi dioddef llifogydd dinistriol ac yna Covid-19 a thrwy'r amser yn ceisio gwrthsefyll y gystadleuaeth annheg gan ganolfannau manwerthu y tu allan i'r dref. Mae'r symudiad i fancio ar-lein yn fyd-eang ond mae angen ein gwasanaethau yn ein trefi arnom ni fel cymuned.
Byddai cau'r ddau fanc HSBC hyn yn Tonysguboriau a Pontypridd yn ergyd arall.
Gweithredwch nawr - llofnodwch y ddeiseb yma.
Darllenwch fwyJustice for Flood Victims
Ar nos Chwefror 15fed 2020 cafodd rhannau helaeth o RhCT eu taro gan Storm Dennis.
Roedd Storm Dennis yn storm wynt Ewropeaidd a ddaeth, ym mis Chwefror 2020, yn un o'r seiclonau allwthiol dwysaf a gofnodwyd erioed, gan gyrraedd isafswm pwysau canolog o 920 o filibarau (27.17 modfedd o arian byw) [https://en.wikipedia.org/wiki/Storm_Dennis]
Ar draws RhCT, roedd dros 1,000 o eiddo wedi dioddef llifogydd. Yn Etholaeth Pontypridd, dioddefodd trigolion Pontypridd, Trefforest a Ffynnon Taf lifogydd eithafol.
Roedd y difrod yn helaeth i dai, busnesau a seilwaith trafnidiaeth.
Wythnos Gwirfoddolwyr
Neges gan Heledd Fychan yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr:
[Trawsgrifio o fideo]
Darllenwch fwy"This week is Volunteers Week and I wanted to take the opportunity to say thank you so much to each and every one of you that volunteers in our community.
Pryder Plaid Cymru Ynghylch Colli Swyddi Posib Yn General Electric Nantgarw
Mae Plaid Cymru wedi mynegi pryder i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith colli swyddi posib yng ngwaith General Electric yn Nantgarw.
Darllenwch fwyYsbryd Cymunedol Etholaeth Pontypridd Yn Dal Yn Gryf, Er Gwaethaf Llifogydd a Coronafeirws
Er gwaethaf y llifogydd a'r argyfwng coronafeirws, mae ysbryd cymunedol Pontypridd yn gryfach nag erioed yn ôl cynghorwyr Plaid Cymru.
Darllenwch fwy