Diolch

Plaid Cymru Pontypridd 2024Diolch i bawb a bleidleisiodd dros y Blaid ym Mhontypridd. Mewn noson a welodd Gymru rydd o'r Torïaid gwthiodd Plaid Cymru'r Torïaid i'r 4ydd safle ym Mhontypridd. Ar yr un pryd cael cyfran uchaf y Blaid o'r bleidlais yn yr etholaeth ers dros 20 mlynedd.

result 2024

 

Mae’r canlyniad hwn yn rhoi Plaid Cymru mewn sefyllfa wych ar gyfer etholiad nesaf y Senedd a chyda llywodraeth Lafur yn Llundain, awdurdod lleol a redir gan Lafur a Senedd Gymreig a redir gan Lafur ni all fod unrhyw esgusodion o hyn ymlaen.

 

Os hoffech chi ymuno â ni a bod yn rhan o ymgyrch 2026 cliciwch yma.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.