Dywedodd yr Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan:
Gyda thristwch a sioc y clywsom am farwolaeth y Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros Ynysybwl, Tony Burnell.
Roedd Tony yn gymeriad enfawr ac yn weithgar iawn yn ei gymuned enedigol yn Ynysybwl, gan wasanaethu fel Cynghorydd Sir a Chynghorydd Cymuned.
Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd, bydd cymaint o bobl yn gweld ei eisiau.
Mae hon yn golled aruthrol i’w deulu a’i ffrindiau, ei gymuned ac i Blaid Cymru.
Roedd Tony yn un o fil, oedd wastad yn gweithio’n ddi-flino i geisio sirchau’r gorau i drigolion Ynysybwl. Roedd ganddo galon enfawr a phersonoliaeth afieithus.
Cwsg mewn hedd Tony."
Tony Burnell gyda Cyng Amanda Ellis a Heledd Fychan AS