Park Lane
Y stâd ofnadwy ar yr ffordd yn arwain at y feddygfa yw’r rhwystr fwyaf i unrhywun sydd am weld y meddyg. Mae nifer o bobl wedi cysylltu â fi am y tyllau yn Park Lane, a dw i wedi ysgrifennu at y cyngor nifer o weithiau. Yn dilyn cyfarfod gyda’r grŵp fforwm cleifion, ysgrifennais eto at y cyngor, ond y tro hwn dywedon nhw y byddant yn ystyried gwneud y gwaith.
Does dim rhaid i’r cyngor wneud y gwaith o gwbl gan nad yw’r heol wedi ei mabwysiadu. Syndod pleserus felly, oedd derbyn galwad gan y cyngor yn addo edrych ar y broblem. Mae’r feddygfa wedi addo cyfrannu at y gwaith, sy’n ei gwneud yn fwy tebygol o ddigwydd. #cyffrous
Dibyn Dwfn
Gofynnais i’r cyngor ystyried gwaith ar lwybrau mewn tair ardal. Station Road oedd y cyntaf - mae dirfawr angen gwell ddarpariaeth i gadeiriau olwyn, fel yn wir y mae’r llwybrau wrth gyffordd Celyn Isaf/Tylchawen Terrace, a llwybrau Heol Tŷ Llwyd. Mae Station Road yn rhy ddrud, caiff asesiad o Heol Tŷ Llwyd ei wneud gyda addewid o wneud y gwaith y flwyddyn nesaf, ond caiff gwaith Tylchawen Terrace ei wneud cyn bo hir! Byddaf yn dal i bwyso iddyn nhw wneud gwaith ar Station Road #2maso3
Cangen Goll
Does dim rhaid i chi ddod i gyfarfodydd PACT i leisio’ch pryderon. O fewn ychydig wythnosau o roi gwybod i fi am goeden beryglus, roedd swyddogion y cyngor wedi asesu a thorri’r goeden, a choed cyfagos hefyd. Nawr mae’n saff i blant fynd i’r ysgol. Os gwelwch chi rywbeth peryglus yn eich ardal chi, rhowch wybod i fi’n syth. #EichCymunedChi
Mae nifer o ffyrdd sydd angen gwaith mawr arnyn nhw, ond fel ym meysydd eraill, alla i ddim perswadio’r cyngor i wneud popeth. Roedd hi’n bleser felly i gael galwad gan y cyngor i ddweud eu bod yn mynd i osod wyneb newydd ar St. John’s Road. Byddaf fi nawr yn parhau i bwyso ar ran pobl Tonyrefail i gael y cyngor i drin ffyrdd eraill, fel Pretoria Road a Collwyn Street. #EnnillBobYnDipyn
Gweithredwch
Gallwch ymuno yn y sgyrsiau sydd yn codi am EIN pentref trwy fynd i dudalen Facebook Plaid Tonyrefail. Gallwch hoffi’r dudalen, ac yna ymuno yn y sgwrsio. Mae Tonyrefail yn lle ardderchog i fyw, ond mae angen i CHI gymryd rhan weithgar. Defnyddiwch EIN siopau lleol. Ymunwch â grwp lleol fel yr U3A neu’r WI. Dechreuwch grŵp newydd i oedolion neu blant. Cefnogwch achosion da lleol fel y grwp diffibrilwyr, neu’r grŵp parc sglefrio. #Ymunwch #Gweithredwch
Canolfan Dydd San Sior
Mae’r cyngor yn bwriadu cau Canolfan Dydd San Sior, a gorfodi pawb i fynd i Gilfach, fel y grŵp gafodd eu gorfodi i adael Canolfan Gymunedol Tonyrefail i fynd i Gilfach. Mae Ton yn colli popeth. Mae’n bryd cael rhywbeth yn ôl.
Oes cwestiwn, cwyn neu achos hoffech chi godi? Cysylltwch â fi:-
Ffoniwch/tecstiwch fi – 07951 551 607
Ebostiwch fi :- [email protected]
Facebook – Tonyrefail Plaid
Twitter - @PlaidTonyrefail