Is-Etholiad Tyn-Y-Nant

Ioan BellinMae Plaid Cymru yn lleol wedi dewis Ioan Bellin fel ymgeisydd yn yr isetholiad ward Tyn-Y-Nant.
Bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, Gorffennaf 22ain.


Mae Ioan Bellin yn ymgyrchydd profiadol a brwdfrydig yn y gymuned leol. Mae wedi ymgyrchu i gadw llyfrgelloedd lleol, canolfannau hamdden a chartrefi gofal ar agor yng ngwyneb toriadau gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Ioan:


“Wrth i ni ddod allan o’r pandemig Covid mae Plaid Cymru am i wleidyddiaeth weithio eto. Mae hyn yn cychwyn trwy wneud bywydau pob dydd pobl yn well ar lefel gymunedol. Dyna pam rwy’n sefyll yn yr isetholiad hwn.


“Mae diogelwch ffordd yn fater pwysig i mi ynghyd â’r cynnydd mewn llygredd plastig. Hefyd, rwy’ am weithio gyda’r heddlu a’r gymuned leol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth gymdeithasol.


“Os caf fy ethol fe wnaf yn siwr eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y cyngor drwy gylchllythyr rheolaidd.


“Rwy’n falch i gael sefyll i ymuno â thim llwyddiannus Plaid Cymru Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a byddwn yn ddiolchgar am eich cefnogaeth.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.