"Mae pobl eisiau gwybod pryd y gallen nhw dderbyn y brechlyn"

Plaid Cymru yn galw am y tryloywder mwyaf posibl i feithrin ymddiriedaeth, a chwestiynu'r system apwyntiadau mewn llythyr agored at y Gweinidog Iechyd

Mewn llythyr agored at y Gweinidog Iechyd, mae Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd iechyd Plaid Cymru, wedi galw am fwy o eglurder ar y rhaglen frechu, er mwyn meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd.

Er bod defnyddio'r brechlyn yn cynnig gobaith gwirioneddol, mae Mr ap Iorwerth yn codi “pryderon gwirioneddol” ynghylch cyflymder, tryloywder a chyfathrebu'r rhaglen, ac yn dweud bod y cyhoedd “eisiau gwybod pryd y gallen nhw ddisgwyl y brechlyn.”

Mae Mr ap Iorwerth yn galw am ddangosfwrdd o wybodaeth a fyddai'n caniatáu i'r cyhoedd weld cynnydd drostynt eu hunain, gan gynnwys nifer y dosau a ddarperir ac a weinyddir gan y bwrdd iechyd a fesul grŵp blaenoriaeth. Dywedodd y byddai'n “mynd yn bell” wrth helpu i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd.

Mae Mr ap Iorwerth hefyd yn gofyn am eglurder ynghylch a yw System Imiwneiddio Cymru yn gallu cyflawni'r tasgau y bwriadwyd iddi eu gwneud ar hyn o bryd, gan gynnwys creu apwyntiadau, anfon llythyrau ac amserlennu ail ddos yn awtomatig.

Gan ddefnyddio enghreifftiau o arfer da rhyngwladol, mae Mr ap Iorwerth yn gofyn a fyddai'r Gweinidog Iechyd yn ystyried mesurau fel:

  • Canolfannau brechu ar agor 7 diwrnod yr wythnos
  • Argaeledd eang o ganolfannau brechu ar ffurf gyrru drwodd
  • Lleihau gwastraff drwy ganiatáu i frechlynnau parod gael eu rhoi ar sail 'y cyntaf i'r felin' ar ddiwedd y dydd.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae pryderon gwirioneddol am y rhaglen frechu, yn enwedig o ran cyflymder, tryloywder a chyfathrebu yn ystod y camau cychwynnol hyn. Mae pobl am wybod pryd y gallent ddisgwyl y brechlyn.

“Bydd gosod targedau yng nghynllun brechu Llywodraeth Cymru, a chynnwys dangosfwrdd o wybodaeth sy'n ateb cwestiynau ynghylch nifer y dosau fesul bwrdd iechyd a grŵp blaenoriaeth, yn mynd ymhell o ran helpu i feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd, gan y byddant yn gallu olrhain cynnydd drostynt eu hunain.

“Mae gennym gyfnod byr o wythnosau cyn i'r difrod o amodau caeth, yn enwedig cau ysgolion, ddod yn fwy arwyddocaol fyth. Ar hyn o bryd mae gennym feirws sy'n heintio mwy o bobl bob wythnos nag sy'n cael y brechlyn. Felly, mae ehangu cyflymder a graddfa'r brechiadau yn hanfodol, yn ogystal ag adfer hyder y cyhoedd bod gan lywodraethau gynllun i ennill y frwydr hon yn erbyn y feirws.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.